Eich Cwestiynau- Ynglŷn â’r canlyniadau
Pryd fyddaf i’n gwybod y canlyniad?
Bydd y sgriniwr yn rhoi canlyniad y prawf i chi’n syth, ac yn dweud a oes angen gwneud prawf arall.
Beth yw ystyr y canlyniadau?
Os oes ymateb clir o un o glustiau’ch babi, neu o’r ddwy glust, mae’n annhebygol fod colled ar ei glyw a fydd yn effeithio ar ei allu i ddysgu siarad a datblygu iaith. Nid oes angen gwneud rhagor o brofion sgrinio. Bydd y sgriniwr yn rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd mae babanod yn ymateb i sain wrth iddyn nhw dyfu. Byddan nhw’n dweud wrthych chi beth i’w wneud os ydych chi’n poeni o gwbl am glyw eich babi.
Os nad yw’r un o glustiau’ch babi’n rhoi ymateb clir, nid yw o anghenraid yn golygu bod colled ar ei glyw. Mae’n bosib methu cael ymatebion clir:
- os yw’r babi’n aflonydd;
- os oes hylif yn y glust ar ôl y geni;
- os oes gormod o sŵn yn yr ystafell lle’r oedd y prawf yn cael ei wneud.
Os nad yw’r un o glustiau’ch babi’n rhoi ymateb clir, bydd y sgriniwr yn cynnig prawf arall i chi neu’n cynnig i chi fynd i glinig arbennig mewn ysbyty.
Os oes ymateb clir o un yn unig o glustiau’ch babi, gallwch chi ddewis cael prawf arall ar ei glyw. Os yw’ch babi wedi bod mewn uned gofal arbennig am dros 48 awr, rydyn ni’n argymell yn bendant eich bod chi’n cael y prawf.
Ymateb clir mewn un glust – eich dewisiadau o ran gofal dilynol
Mae tua un o bob pum babi sy’n cael ei sgrinio (20%) yn rhoi ymateb clir mewn un glust yn unig. Dim ond nifer bach iawn o fabanod sy’n cael eu geni â cholled barhaol ar glyw un glust, felly mae’n debygol fod eich babi’n clywed yn dda gyda’r ddwy glust. Mae’n bosib methu cael ymateb clir os yw’r babi’n aflonydd, os oes hylif yn y glust ar ôl y geni neu os oes gormod o sŵn yn yr ystafell lle’r oedd y prawf yn cael ei wneud.
Byddwn ni’n ysgrifennu at eich meddyg teulu a’ch ymwelydd iechyd i roi gwybod bod ymateb eich babi yn y prawf sgrinio clyw wedi bod yn glir ac nad oes angen mwy o brofion. Ond mae’r dewisiadau sy’n dilyn ar gael i chi:
- Gallwch chi ddewis cael prawf sgrinio arall. Bydd yr ail brawf yn ddigon tebyg i’r cyntaf a wnaeth y sgriniwr ond bydd yn cael ei wneud mewn clinig mewn ysbyty.
- Gallwch chi ddewis aros a chael prawf clyw arall pan mae’ch babi’n saith mis oed. Bydd y prawf yma mewn clinig lleol neu glinig mewn ysbyty.
- Gallwch chi ddewis peidio â chael prawf arall. Ond mae’n bwysig asesu clyw eich babi wrth iddo dyfu gan ddefnyddio’r rhestr wirio a gawsoch chi.
Os byddwch chi’n dewis cael prawf arall, ffoniwch y rhif sy’n dilyn o fewn wythnos i ddyddiad y prawf sgrinio i drefnu ail brawf:
- Gogledd Cymru 01978 727005
- Gorllewin Cymru a’r Canolbarth 01656 754085
- De-ddwyrain Cymru 029 2074 3568
Babanod oedd angen gofal arbennig am fwy na dau ddiwrnod
Os oedd eich babi mewn uned gofal arbennig am dros 48 awr a dim ond un glust sy’n rhoi ymateb clir, rydyn ni’n argymell yn bendant eich bod chi’n dewis cael prawf arall mewn clinig arbennig mewn ysbyty. Bydd y rhaglen sgrinio’n trefnu’r ail brawf ar eich rhan.
Mae angen gwneud y profion yma pan mae babi’n dal i gysgu llawer yn ystod y dydd a byddwch chi’n cael apwyntiad ar gyfer y prawf o fewn yr wyth wythnos nesaf. Mae hyn yn rhoi amser i lwybr y clyw ddatblygu os cafodd eich babi ei eni’n gynnar.
Awdiolegydd (arbenigwr clyw) fydd yn gwneud y prawf. Gallai’r apwyntiad gymryd hyd at ddwy awr, sy’n cynnwys amser i’ch babi setlo a mynd i gysgu. Gallwch chi aros gyda’ch babi yn ystod y prawf. Byddwch chi’n cael taflen yn ystod y prawf i esbonio’r drefn.
A fydd fy mabi’n dal i gael prawf tynnu sylw gan yr ymwelydd iechyd?
Cafodd y profion tynnu sylw eu diddymu’n raddol ar ôl i’r rhaglen sgrinio gael ei chyflwyno. Ni fydd angen i fabanod newydd-anedig sy’n cael sgrinio’u clyw gael prawf clyw arall yn saith mis oed oni bai eich bod chi neu weithiwr proffesiynol yn poeni am glyw eich plentyn. Yn yr achos hwn, byddwch chi’n cael cyfle i fynd â’ch babi i glinig clyw eich ardal i gael prawf arall.