GIG 2008 – 19-21 Mehefin 2008 – Cernobbio (Llyn Como), Yr Eidal
Aeth aelodau o’r tîm rheoli ar ran Sgrinio Clyw Babanod Cymru i’r gynhadledd ddiweddar ar sgrinio clyw yn Cernobbio. Daeth llawer o gynrychiolwyr rhaglenni sgrinio clyw o bob rhan o’r byd i’r gynhadledd.
Rhoddodd Michelle Dodd, Gwyddonydd Awdiolegol yn Ysbyty Glan Clwyd, gyflwyniad yn ystod y sesiwn Gwerthuso Diagnostig ar ran y rhaglen sgrinio yng Nghymru. Manylodd yn ystod ei sgwrs ar y camau mae’r rhaglen yn eu cymryd i sicrhau ansawdd asesiadau o’r clyw.
Cyflwynodd Dr Sally Minchom, Cyfarwyddwr Cysylltiol y rhaglen yng Nghymru, adroddiad hefyd yn ystod sesiwn arbennig o'r Gweithgor Rhyngwladol ar Glyw Plant (IGCH) pan gyflwynwyd adroddiadau o 22 gwlad. Roedd y tîm wedi creu poster ynglŷn â’r cyflwyniad hwn a gafodd ei arddangos yn ystod y sesiwn bosteri ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd.
Cafodd poster ei greu hefyd i'w arddangos yn y man Canolbwyntio ar Deuluoedd ar y diwrnod cyntaf. Roedd yn sôn am Brofiadau Rhieni o raglen Sgrinio Clyw Babanod yng Nghymru gan fanylu ar yr holiadur a anfonwyd drwy’r post yn ystod arolwg diweddar.
Cafodd posteri eu harddangos ar yr ail ddiwrnod hefyd. Arddangoswyd y cyntaf yn yr adran Datblygu a Gwerthuso Rhaglenni dan y teitl Cywirdeb y Wybodaeth sy'n sail i Reoli Ansawdd. Roedd y poster hwn yn esbonio’r egwyddorion sy’n sail i waith Rheoli Ansawdd y Rhaglen, a’i dulliau o ofalu bod data’n gywir. Cafodd yr ail boster ei arddangos yn y man Asesiadau ac Ymyriadau Cynnar gan fanylu ar y ffordd mae’r rhaglen yn gofalu bod y deilliannau o ran iaith a chyfathrebu plant sy’n cael eu hadnabod yn gynnar, yn safonol.