Skip navigation and go straight to content

Sgrinio Clyw Babanod Cymru

Lansio rhaglen ddysgu achrededig

Ym mis Chwefror 2007, rhoddodd Sgrinio Clyw Babanod Cymru broject ar waith a oedd wedi’i ariannu gan NLIAH (yr asiantaeth genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth ac arloesi mewn gofal iechyd). Y bwriad oedd datblygu rhaglen o ddysgu sydd wedi’i hachredu’n ffurfiol ar gyfer sgrinwyr clyw babanod sydd â’r potensial i ddilyn gyrfa yn y maes.

Mae dwy garfan wedi dilyn y rhaglen garlam dros y flwyddyn ddiwethaf. Llwyddodd carfan o 11 o sgrinwyr i gwblhau’r rhaglen gyntaf. Mae’r ail garfan o saith wrthi ar hyn o bryd a byddan nhw’n cwblhau’r rhaglen ar ddiwedd mis Medi. Ar ôl i’r rhaglenni carlam ddod i ben, bydd rhaglen flynyddol yn cael ei rhoi ar waith ar ffurf BTEC mewn Sgrinio (Clyw Babanod Newydd-anedig).

I ennill y cymhwyster, mae’r myfyrwyr yn astudio unedau mewn cyfathrebu, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac iechyd, diogelwch a sicrwydd. Y rhain yw prif elfennau gwaith y sgriniwr.

Mae’r cyflwyniad i’r cymhwyster yn rhoi sylw i nifer o brif feysydd y rhaglen a datblygiad personol, fel:

  • helpu i ddenu a chadw staff sy’n bodloni anghenion y gwasanaeth
  • gweld sgrinwyr yn cyfrannu hyd eithaf eu gallu at waith y gwasanaeth sgrinio
  • gwneud y defnydd gorau o sgiliau’r sgrinwyr
  • cynnig llwybr ar gyfer dilyn gyrfa yn y maes
  • cynnal y gwaith o ddatblygu grŵp newydd o weithwyr gofal iechyd.

Mae dysgu achrededig yn cynnig dull cydnabyddedig cenedlaethol o fesur ansawdd hyfforddiant y sgrinwyr, ac mae’n gosod safon uchel y gall sgrinwyr weithio i’w chyrraedd. Trwy feithrin sgiliau sgrinwyr, mae’r cymhwyster yn ychwanegu at statws eu gwaith a hefyd at broffil Sgrinio Clyw Babanod Cymru fel un o gyflogwyr da’r Gwasanaeth Iechyd. Mae ennill yr hawl i gofrestru i wneud y cymhwyster yn annog staff i ymrwymo i’r gwasanaeth am nifer o flynyddoedd.

Mae mwy o wybodaeth gefndirol am y project yn yr adroddiad 'NBHSW: Accredited Learning Programme. Adroddiad am y Project', Ebrill 2008. Mae crynodeb ar gael hefyd dan y teitl: 'Summary Report – NBHSW: Accredited Learning Programme; First Cohort'.

Dilyn gyrfa mewn sgrinio clyw babanod

Ar ôl ennill BTEC cymhwyster, mae sgrinwyr clyw babanod yn gallu symud ymlaen i weithredu fel Sgrinwyr Lefel 1. Drwy wneud hyn, gallan nhw ddatblygu eu sgiliau cyflwyno a mentora gan fod hyfforddi sgrinwyr newydd a hyrwyddo’r gwasanaeth ymhlith eu dyletswyddau newydd penodol. Mae 11 o sgrinwyr yn gweithredu fel Sgrinwyr Lefel 1 ar hyd a lled Cymru erbyn hyn, a bydd mwy o sgrinwyr yn cael eu recriwtio ar ôl i’r ail garfan orffen y rhaglen garlam ar ddiwedd mis Medi.

Mae’r ddogfen neu’r dogfennau ar gael mewn fformat dogfen gludadwy (PDF). Bydd angen darllenydd Adobe Acrobat (am ddim) arnoch i’w darllen.