Newyddion
Mehefin 2012
Menywod ledled cyru'n cael eu hannog i fynychu sgrinio serfigol
Bydd menywod ledled Cymru’n cael eu hannog i fynd am brawf sgrinio serfigol (ceg y groth) rheolaidd y GIG, yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Sgrinio Serfigol.
Nod yr wythnos, rhwng 10-16 Mehefin, yw amlygu pwysigrwydd sgrinio serfigol, a’r ffordd y gall cael prawf sgrinio helpu i atal canser ceg y groth rhag datblygu.
Wedi ei arwain gan Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo, cefnogir yr ymgyrch gan Sgrinio Serfigol Cymru, rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd yn cynnal rhaglen sgrinio Serfigol y GIG yng Nghymru.
Ystadegau diweddaraf ar gyfer Cymru yn 2010/11 yn dangos bod sylw i ferched sy’n mynychu i gael prawf taeniad yn y grwp oedran 25-64 yn 79.6% - y gyfradd a gynhwyswyd uchaf yn y DU – gyda swyddogion iechyd yn awyddus i gyrraedd y gyfradd darged o 80%.
Pwysleisiodd Bryan Rose, Rheolwr Rhaglen Cymru Gyfan Sgrinio Serfigol Cymru bwysigrwydd cael y prawf: “Cael prawf ceg y groth rheolaidd yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ganfod newidiadau annormal yn y celloedd, cyn iddynt droi’n ganser o bosibl. Er y gall canser ceg y groth effeithio ar fenywod o bob oed, dyma’r ail fath mwyaf cyffredin o ganser ymysg menywod o dan 35 oed. Ein gobaith yw, wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasu, fel ein tudalen ar Facebook, y gallwn godi ymwybyddiaeth ac annog menywod i gael eu sgrinio.”
- Am fwy o wybodaeth am brofion ceg y groth a chanser ceg y groth, ewch i: www.screeningservices.org/csw
- Gellir gweld hysbyseb Sgrinio Serfigol Cymru a straeon digidol gan gyfranogwyr ar You Tube: www.youtube.com/cervicalscreeningwal
- Am fwy o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Jo ewch i: www.jostrust.org.uk
Ionawr 2012
Ymgyrch yn cael ei daenu ledled cymru!
Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn ymuno ag elusen ganser flaenllaw yng Nghymru, mewn ymgais i annog menywod i fynychu profion ceg y groth.
Mae rhaglen sgrinio’r GIG yn ymuno â Tenovus yn ystod Ionawr i hyrwyddo Wythnos Ewropeaidd Atal Canser Ceg y Groth (ECCP), digwyddiad blynyddol sydd yn annog menywod i dderbyn y cynnig sgrinio yn eu gwlad eu hunain.
Bydd Sioe Deithiol, wedi ei threfnu mewn partneriaeth â Tenovus, yn teithio o amgylch strydoedd Cymru i amlygu pwysigrwydd cael prawf ceg y groth.
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos mai’r cyfraddau ymgymeriad ar gyfer menywod yn y grŵp oedran targed yw 76.4% yng Nghymru, ac mae swyddogion iechyd yn awyddus i fenywod dderbyn y sgrinio am ddim, sy’n cael ei gynnig bob tair blynedd rhwng 20 a 64 oed.
Er y gall canser ceg y groth effeithio ar fenywod o bob oed, dyma’r ail fath mwyaf cyffredin o ganser ymysg menywod o dan 35 oed. Felly, er mwyn hyrwyddo Wythnos ECCP 2012, bydd y rhaglen sgrinio yn lledaenu ei neges mewn prifysgolion ledled Cymru.
Bydd staff sgrinio yn bresennol yn uned symudol cemotherapi enfawr Tenovus wrth iddi ymweld â thair prifysgol ym mis Ionawr, i roi cyngor, gwybodaeth a bagiau o bethau da am ddim. Bydd myfyrwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd yn gallu cael gwiriad iechyd am ddim hefyd, gan staff Tenovus yn yr uned.
Bydd yr uned yn y lleoliadau canlynol am un diwrnod yn unig, a bydd ar agor i’r cyhoedd, yn ogystal â myfyrwyr a staff:
- Dydd Llun, 9 Ionawr: Coleg Merthyr Tudful
- Dydd Llun, 16 Ionawr: Prifysgol Aberystwyth
- Dydd Llun, 30 Ionawr: Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam
Dywedodd Alison Clement, Arbenigwr Cyswllt Sgrinio: “Mae Sgrinio Serfigol Cymru wedi cefnogi Wythnos ECCP am y tair blynedd diwethaf, trwy ddarparu pecynnau gwybodaeth cymunedol ar gyfer lleoliadau fel clinigau iechyd rhywiol, clybiau nos a cholegau.
“Eleni, yn ogystal â’n hymgyrch bost yn rhoi gwybodaeth, mae’n bleser ymuno â Tenovus i fynd â’n Hymgyrch i dair prifysgol yng Nghymru. Yn ogystal â myfyrwyr a staff, mae croeso i’r cyhoedd alw heibio hefyd.”
Yr Ymgyrch yw’r diweddaraf mewn cyfres o fentrau hybu iechyd gan Sgrinio Serfigol Cymru, sydd yn cynnwys tudalen a lansiwyd yn ddiweddar ar Facebook, ynghyd â straeon digidol o brofiadau bywyd gwirioneddol ar ‘You Tube’.
Pwysleisiodd Bryan Rose, Rheolwr Rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer Sgrinio Serfigol Cymru, bwysigrwydd y profion: “Profion ceg y groth rheolaidd yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ganfod celloedd annormal, cyn iddynt, o bosibl, droi’n ganser. Mae’r prawf nid yn unig yn canfod canser yn gynnar, ond gall atal canser rhag datblygu.
“Mae tua 1,500 o fenywod yn marw o ganser ceg y groth yn y DU bob blwyddyn, ond rydym yn gwybod bod sgrinio’n achub dros 1,000 o fywydau'r flwyddyn.”
Mai 2011
Mae angen ffrindiau i ledaenu'r neges!
Prawf ceg y groth yw ffrind gorau merch – dyna’r neges gan Sgrinio Serfigol Cymru wrth iddo symud i fyd rhwydweithio cymdeithasol a Facebook!
Rhaglen sgrinio’r GIG yw’r sefydliad diweddaraf i lansio tudalen ar ‘Facebook’ mewn ymgais i annog menywod i gael prawf ceg y groth yn rheolaidd. Gobaith y rhaglen yw y bydd menywod yn dod yn ‘ffrind’ i’r safle, ac yn helpu i ledaenu negeseuon cadarnhaol yn y frwydr yn erbyn canser ceg y groth.
“Mae ymwneud â byd rhwydweithio cymdeithasol yn brofiad newydd i ni,” esboniodd Dr Rosemary Fox, Cyfarwyddwr Dros Dro Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru. “Rydym yn gwerthfawrogi, fel sefydliad, bod angen i ni symud gyda’r oes, a chroesawu’r cyfryngau cymdeithasol y mae pobl ifanc yn eu defnyddio’n helaeth. Mae gennym eisoes sianel ‘You Tube’ ac roedd tudalen ar ‘Facebook’ yn ddatblygiad naturiol.”
Ychwanegodd: “Cyfraddau cyfredol cael prawf ceg y groth yng Nghymru yw 76.5% ar draws pob oedran, fodd bynnag, mae’r gyfradd yn is ymysg menywod 20-30 oed nag unrhyw oedran arall, sef 64.2%. Mae llawer o sefydliadau ac elusennau yn gweld buddion defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel ffordd o hyrwyddo eu gwasanaethau. Facebook yw’r safle rhwydweithio cymdeithasol mwyaf gyda miliynau o ddefnyddwyr, felly mae posibilrwydd gwirioneddol o godi ymwybyddiaeth am ganser ceg y groth a phwysigrwydd cael prawf ceg y groth.”
Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn cynnig prawf ceg y groth i fenywod rhwng 20 a 64 oed, bob tair blynedd. Mae menywod yn cael llythyr pan fydd angen iddynt gael y prawf, yn eu gwahodd i wneud apwyntiad yn eu meddygfa neu mewn clinig iechyd rhywiol.
Dafydd Snelling, Swyddog Hyrwyddo Sgrinio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n rhedeg rhaglen sgrinio’r GIG, sy’n gyfrifol am greu’r safle.
Dywedodd: “Mae’r safle’n weithredol bellach felly gall pobl fynd iddo’n syth. Os yw’r defnyddwyr yn chwilio’r safle am Sgrinio Serfigol Cymru, gallant wedyn glicio’r botwm ‘like’ ac ychwanegu ein tudalen i’w proffil. Mae hyn yn golygu y bydd eu ffrindiau i gyd yn gallu gweld ein tudalen. Gallai miloedd o bobl o bosibl weld ein tudalen GIG mewn cyfnod byr iawn.“
Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn bwriadu defnyddio’r dudalen i hyrwyddo ymgyrchoedd hybu iechyd, i roi newyddion diweddaraf a darparu dolen i’w safleoedd ‘You Tube’ sy’n cynnwys straeon digidol gan gleifion.
Ionawr 2011
Menywod yn cael eu hannog i gael prawf ceg y groth yn rheolaidd
Mae menywod ar draws Cymru'r wythnos hon yn cael eu hannog i gael prawf ceg y groth yn rheolaidd, fel rhan o ymgyrch flynyddol i gynyddu ymgymeriad ac achub bywydau.
Daw’r alwad yn ystod Wythnos Atal Canser y Serfics yn Ewrop (ECCP), a gynhelir bob mis Ionawr, i annog menywod ar draws Ewrop i fanteisio ar wasanaethau sgrinio yn eu gwlad eu hunain.
Yng Nghymru, mae swyddogion iechyd yn awyddus i fenywod rhwng 20 a 64 oed fanteisio ar brawf sgrinio serfigol y GIG, sydd am ddim ac yn cael ei gynnig bob tair blynedd.
Dangosodd yr ystadegau diweddaraf a gafodd eu cyhoeddi yn 2010 fod sgrinio menywod yn y grŵp oed targed yn 76.5% ar draws Cymru – i fyny 1.0% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd bach hwn, mae swyddogion yn dal eisiau annog mwy o fenywod hyd yn oed i fanteisio ar wasanaeth y GIG.
Dywedodd Dr Rosemary Fox, y Cyfarwyddwr dros dro Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd yn rhedeg Sgrinio Serfigol Cymru: “Mae ymchwil yn dangos bod profion ceg y groth yn effeithiol iawn yn atal canser serfigol. Rydym yn amcangyfrif bod y rhaglen yn atal bron 200 o achosion o ganser serfigol yng Nghymru bob blwyddyn, a gellir arbed mwy o fywydau pe byddai pob menyw yn mynychu profion rheolaidd.”
Ychwanegodd Bryan Rose, Rheolwr Rhaglen Dewy Gymru Oll: “Profion ceg y groth rheolaidd yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ganfod celloedd annormal, cyn-ganseraidd, cyn iddynt droi yn ganser o bosibl. Mae’r prawf nid yn unig yn dal y canser yn gynnar, ond gall atal canser rhag datblygu.
“Mae tua 1,500 o fenywod yn marw o ganser serfigol yn y DU bob blwyddyn, ond rydym yn gwybod bod sgrinio yn achub dros 1,000 o fywydau'r flwyddyn.”
Er y gall canser serfigol effeithio ar fenywod o bob oed, dyma’r ail achos mwyaf cyffredin o ganser ymysg menywod o dan 35 oed.
Yn ystod Wythnos ECCP, bydd gan Ganser Serfigol Cymru stondinau hyrwyddo mewn nifer o archfarchnadoedd ar draws Cymru, gan dargedu lleoliadau yn cynnwys clybiau nos, clinigau iechyd rhywiol a phrifysgolion gyda thaflenni a phosteri.
Mae’r elusen, Jo’s Cervical Cancer Trust, wedi cefnogi’r alwad i fenywod yng Nghymru fynychu profion ceg y groth rheolaidd. Dyma’r unig elusen yn y DU sydd yn ymroddedig i fenywod a’u teuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan ganser serfigol ac annormaleddau serfigol.
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn dangos hysbysebion mewn nifer o sinemâu yng Nghymru i gefnogi Wythnos ECCP, mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth, Robert Music: “Mae canser serfigol yn glefyd y gellir ei atal i raddau helaeth ac yn un lle gall menywod gymryd camau rhagweithiol i leihau’r perygl.
“Rwyf yn annog pob menyw gymwys yng Nghymru i fynychu prawf sgrinio serfigol pan gaiff ei gwahodd, ac rwy’n cymeradwyo gwaith Sgrinio Serfigol Cymru yn ymgymryd i gynyddu’r ymgymeriad. Yn syml iawn, gallai mynychu’r sgrinio achub eu bwyd.”
Tachwedd 2010
Ceisio barn y cyhoedd am raglenni sgrinio yng Nghymru
Mae DYNION a menywod ar draws Cymru yn cael eu gwahodd i rannu eu barn am brofion sgrinio canser y fron, y colyddun a chanser ceg y groth y GIG.
Mae taflen newydd sbon ‘Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd’ wedi cael ei datblygu mewn ymgais i annog mwy o aelodau o’r cyhoedd i leisio eu barn, a hyrwyddo buddion mynychu profion sgrinio yn rheolaidd.
Bydd y daflen ddwyieithog, a ddatblygwyd gan Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cael ei dosbarthu mewn cymunedau ar draws y wlad, yn y gobaith o annog mwy o bobl i leisio eu barn, ac i helpu i ledaenu negeseuon cadarnhaol ynghylch sgrinio.
Bydd pobl yn gallu cymryd rhan mewn nifer o ffyrdd, yn amrywio o gymryd rhan mewn grwpiau ffocws ac arolygon, i rannu eu profiadau o gael prawf sgrinio trwy’r cyfryngau, gwefannau a straeon digidol.
Fel yr esboniodd Hannah Jones, Swyddog Hyrwyddo Sgrinio: “Cyflogir tîm hyrwyddo arbenigol i godi ymwybyddiaeth ynghylch rhaglenni sgrinio sy’n cael eu cynnig yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae cynnwys y cyhoedd wrth wraidd ein gweithgareddau.
“Mae defnyddwyr y gwasanaeth eisoes yn rhoi cymorth amhrisiadwy i ni mewn llawer o ffyrdd, fel cyfrannu tuag at ddatblygu taflenni newydd, ac ymddangos yn ein DVDau hyrwyddo.
Maent hefyd yn ein helpu yn ystod ymgyrchoedd hyrwyddo penodol, fel Wythnos Ewropeaidd Ymwybyddiaeth o Ganser Ceg y Groth ym mis Ionawr. Roeddem yn gallu defnyddio profiadau menywod o gael prawf ceg y groth i godi ymwybyddiaeth yn y cyfryngau am y rhaglen sgrinio serfigol.”
Dywedodd Dr Rosemary Fox, Cyfarwyddwr Dros Dro Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cyflwyno’r fenter newydd hon, a fydd yn ein galluogi i sicrhau bod ein gweithgareddau’n cael eu llywio gan farn defnyddwyr ein gwasanaethau.
“Mae’n hanfodol ein bod yn deall barn y cyhoedd wrth gynllunio gwasanaethau, er mwyn darparu’r rhaglenni sgrinio o’r ansawdd gorau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr y mae pobl Cymru yn eu haeddu.”
Hyrwyddo Sgrinio: Cynnwys y cyhoedd taflen wybodaeth am

Swyddog Hyrwyddo Sgrinio, Hannah Jones (chwith), a Clare Jones, Cynorthwywr radiograffydd yn Bron Brawf Cymru Wrecsam yn y llun gydair daflen newydd
Mai 2009
Gorffennaf 2008
Mae posteri newydd ar gael i hyrwyddo sgrinio serfigol. Mae dwy fersiwn o’r poster: y naill wedi’i anelu at fenywod ieuengach (yn eu 20au a’u 30au) a’r llall wedi’i anelu at fenywod 40-64 oed. Mae’r posteri ar gael am ddim a gallwch archebu rhai trwy glicio ar y ffurflen sy’n dilyn a’i hanfon yn ôl trwy e-bost. Neu, fe allwch chi lwytho i lawr eich copi PDF di-dâl drwy glicio ar y posteri isod.
Ffurflen archebu poster (PDF ffeil)
Ffurflen archebu poster (Word ffeil)
Chwefror 2008
Adroddiad newydd yn Cefnogi Sytoleg Hylifol ar gyfer sgrinio canser serfigol
Ionawr 2008
Latest developments in the HPV vaccination programme
Tachwedd 2007
'Gwybodaeth Am Eich Sesiwn Sgrinio'r Fron / Gwybodaeth Am Eich Prawf Ceg Y Groth' DVD released. Mae'r ddwy raglen, sy'n para 10 munud yr un, yn egluro'r ffeithiau ynghylch profion sgrinio'r fron a sgrinio cegy groth, yng ngeiriau menywod a staff y GIG. I archebu drwy e-bost, defnyddiwch y fersiwn ffeil Word isod.
Ffurflen archebu DVD (PDF ffeil)
Ffurflen archebu DVD (Word ffeil)
Cylchlythyron ‘Sgrinio Am Oes’
Hydref/Gaeaf 2009 (PDF ffeil 612KB)
Gwanwyn/Haf 2009 (PDF ffeil 549KB)
Hydref/Gaeaf 2008 (PDF ffeil 516KB)
Gwanwyn 2008 (PDF ffeil 543KB)
Hydref 2007 (PDF ffeil 2.0MB)
Cylchlythyron ‘Transformation Zone’
Hydref 2007 (PDF ffeil 681KB)
Gwanwyn 2007 (PDF ffeil 1.1MB)
Hydref 2006 (PDF ffeil 1.6MB)
Rhagfyr 2005 (PDF ffeil 161KB)
Tachwedd 2004 (PDF ffeil 571KB)
Hydref 2003 (PDF ffeil 524KB)

