Triniaeth ar ôl cael canlyniad annormal i brawf taeniad
Pam mae angen triniaeth arna i?
Mae’ch canlyniadau wedi dangos bod celloedd annormal ar eich serfics (gwddf eich croth). Mae angen trin y celloedd yma i rwystro canser rhag datblygu yn y dyfodol.
Beth ydych chi’n ei olygu pan rydych chi’n sôn am gelloedd annormal?
Yr enw ar gelloedd annormal ar y serfics yw neoplasia mewnepithelaidd serfigol (cervical intraepithelial neoplasia neu CIN). Mae’r celloedd annormal wedi dod weithiau o ran arall o’r serfics. Neoplasia mewnepithelaidd grandiwlar serfigol (CGIN) yw’r enw ar y rhain.
Mae CIN yn aml yn cael ei rannu’n dri math: CIN1, CIN2 a CIN3. Newid mân iawn yn y celloedd yw CIN1. Mae’r math yma’n aml yn troi’n normal eto ohono’i hun, heb orfod cael unrhyw driniaeth.
Mae mwy o newidiadau gyda CIN2 a CIN3, ac mae’r rhain yn llai tebygol o droi’n normal eto ar eu pen eu hunain. Heb drin y newidiadau yma, byddai canser yn datblygu yn y dyfodol ar un o bob tair menyw sydd â CIN3. Ar hyn o bryd, mae’n amhosib dweud ym mha fenywod y byddai’r celloedd yn newid. Oherwydd hynny, dylech chi gael triniaeth i rwystro canser rhag datblygu.
Oes gwahanol fathau o driniaethau?
Oes. Mae’r gwahanol driniaethau naill ai’n dinistrio’r man annormal, neu’n ei dynnu oddi yno.
Mae triniaeth laser yn golygu defnyddio pelydryn o olau i ddinistrio celloedd annormal. Mae biopsi dolen (sydd hefyd yn cael ei alw’n DLB neu LLETZ) yn golygu defnyddio dolen fach o wifren i dynnu’r celloedd annormal. Mae ceulad oer (cold coagulation), cryoseriad (cryocautery) a diathermedd (diathermy) yn golygu defnyddio stiliwr (probe) ar y serfics i ddinistrio celloedd annormal. Mae angen biopsi côn ar rai menywod – mae hwn yn golygu tynnu darn bach o’r serfics.
Sut byddwch chi’n dewis y driniaeth sydd orau i mi?
Bydd y meddyg neu’r nyrs yn y clinig colposgopi’n edrych ar eich serfics. Ar ôl ystyried canlyniadau eich prawf taeniad a chanlyniad eich biopsi hefyd, byddan nhw’n penderfynu ar y driniaeth fwyaf addas i chi. Byddwch chi’n cael cyfle i drafod y driniaeth gyda’r meddyg neu’r nyrs cyn i chi gael unrhyw driniaeth.
Ble fyddaf i’n cael y driniaeth?
Yn achos y mwyafrif o fenywod sydd angen triniaeth, bydd y driniaeth yn digwydd yn y clinig i gleifion allanol. Mae anesthetig lleol yn cael ei ddefnyddio fel arfer. Byddai’r driniaeth yn debyg iawn i’ch ymweliad â’r clinig colposgopi, a byddai’n cymryd tua 15 neu 20 munud. Mae croeso i chi ddod â pherthynas neu ffrind gyda chi.
Meddyg neu nyrs fydd yn gwneud y driniaeth, a bydd nyrs arall yn yr ystafell.
Beth fydd yn digwydd?
Bydd nyrs y clinig yn eich helpu i eistedd neu orwedd ar wely neu gadair arbennig fydd yn cynnal eich coesau. Bydd sbecwlwm (sef y math o declyn roedd eich meddyg neu nyrs yn ei ddefnyddio wrth wneud eich prawf taeniad) yn cael ei roi yn eich gwain (vagina). Efallai y bydd gwahanol hylifau’n cael eu rhoi ar eich serfics i helpu i ddangos unrhyw fannau annormal. Bydd y meddyg neu’r nyrs yn defnyddio’r colposgop i edrych ar y mannau yma. Efallai y bydd anesthetig lleol yn cael ei chwistrellu i mewn i’r serfics wedyn, cyn i’r driniaeth gael ei gwneud.
Mewn rhai clinigau rydych chi’n gallu gwylio’ch archwiliad ar fonitor teledu. Ar ôl gofyn am eich caniatâd, mae’r colposgopydd yn gallu defnyddio’r camera i dynnu llun o’ch serfics i’w gadw gyda’ch cofnodion meddygol.
A yw’r driniaeth yn boenus?
Byddwch chi’n teimlo pigo ysgafn am rai eiliadau wrth i’r anesthetig lleol gael ei roi yn eich serfics. Mae’r anesthetig lleol yn gweithio’n gyflym iawn ac ni ddylech chi deimlo unrhyw boen. Efallai y byddwch chi’n ymwybodol o wthio y tu mewn i chi.
Fyddaf i’n sylwi ar unrhyw beth arall?
Efallai y byddwch chi’n clywed sŵn o’r offer mae’r staff yn eu defnyddio i wneud y driniaeth. Os ydych chi’n cael biopsi dolen neu driniaeth diathermedd, efallai bydd oglau llosgi.
Beth fydd yn digwydd os nad yw’n bosib i mi gael triniaeth yn y clinig i gleifion allanol?
Os yw’r man sydd i’w drin yn anodd ei drin yn y clinig i gleifion allanol neu os oes angen biopsi côn arnoch chi, bydd angen i chi gael anesthetig cyffredinol (byddwch chi’n cysgu a bydd angen i chi aros am gyfnod byr yn yr ysbyty). Bydd apwyntiad yn cael ei drefnu i chi.
Beth am y sgil effeithiau?
Gallwch chi fod â rhedlif gwaedlyd ar ôl eich triniaeth. Mae’n well osgoi defnyddio tamponau am bedair wythnos a defnyddio tyweli mislif yn eu lle. Mae rhai menywod yn cael poenau fel poenau mislif ar ôl yr archwiliad. Os byddwch chi’n gweld eich bod yn gwaedu’n drwm neu os byddwch chi’n sylwi ar redlif neu boen, bydd angen i chi gysylltu â’r clinig neu eich meddyg teulu. Mae’n gwbl naturiol i rywun ofidio rywfaint ar ôl y driniaeth.
Efallai y bydd angen i chi gymryd pethau’n dawel am weddill y diwrnod. Os byddwch chi’n teimlo’n wael neu’n anhwylus ar ôl yr ymweliad, ddylech chi ddim gyrru car nes eich bod yn teimlo’n well.
Os byddaf i’n cael triniaeth, a fyddaf i’n gallu beichiogi wedyn?
Ni fyddai’r rhan fwyaf o’r triniaethau sy’n cael eu defnyddio’n effeithio ar eich gallu i fynd yn feichiog wedyn. Mae rhai triniaethau’n gallu cynyddu’r posibilrwydd o eni babi’n gynt na’r disgwyl. Esgor cyn pryd yw’r enw ar hwn. Mae’r risg ychwanegol yma’n fach ond efallai y byddwch chi’n awyddus i’w drafod gyda staff y clinig.
Beth am ryw?
Os ydych chi’n defnyddio coil fel dull atal cenhedlu (er mwyn peidio â mynd yn feichiog), dylech chi naill ai beidio â chael rhyw neu defnyddiwch gondomau am y saith diwrnod cyn eich triniaeth. Mae hyn rhag ofn y bydd angen tynnu eich coil.
Dylech chi beidio â chael rhyw am fis ar ôl y driniaeth. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r man sydd wedi cael ei drin, wella. Nid oes angen i chi newid eich dull atal cenhedlu.
Rydw i wedi sylweddoli fy mod i’n feichiog
Bydd angen i chi gysylltu â’r clinig i roi gwybod iddyn nhw eich bod chi’n feichiog. Byddan nhw’n gohirio’ch triniaeth fel arfer tan 12 wythnos o leiaf ar ôl i’ch beichiogrwydd ddod i ben. Mae’n debyg y bydd angen i chi gael archwiliad colposgopi arall yn ystod eich beichiogrwydd.
Fydd angen i mi gael mwy o driniaeth wedyn?
Byddwch chi fel arfer yn cael cyngor i gael prawf taeniad arall mewn chwe mis. Efallai y byddwch chi’n cael y prawf yma yn y clinig neu ym meddygfa’ch meddyg teulu. Bydd angen prawf taeniad arall chwe mis yn ddiweddarach, a phrofion taeniad unwaith y flwyddyn tan y byddwch chi’n mynd yn ôl i’r patrwm o gael un bob tair blynedd.
A yw’r driniaeth yn gweithio?
Mae triniaeth yn llwyddo mewn tua 95% o achosion. Ond efallai y bydd angen mwy o driniaeth ar nifer fach o fenywod a gafodd driniaeth. Oherwydd hyn, mae’n bwysig iawn i chi gael eich profion taeniad yn rheolaidd.
[CSW08(Ver4)Awst2010]