Sgrinio serfigol ar gyfer gwragedd hŷn

Yng Nghymru, mae gwragedd yn cael eu gwahodd i gael profion taeniad serfigol hyd nes y byddan nhw’n 64 oed. Nid yw’r rhaglen sgrinio’n parhau wedi hynny am ei bod hi’n annhebygol iawn y bydd gwragedd sydd wedi cael taeniadau normal hyd at yr adeg honno’n mynd ymlaen i ddatblygu canser gwddf y groth yn hwyrach yn eu bywydau. Mae hefyd yn bosib i lefelau isel o hormonau arwain at weld newidiadau mân iawn. Gallai hyn arwain wedyn at ail-wneud profion taeniad yn ddiangen ac archwiliadau diangen eraill.

Ond mae rhai gwragedd wedi cael profion taeniad annormal yn y gorffennol ac mae angen i’r rhain barhau i gael profion taeniad ar ôl cyrraedd 64 oed. Mae’n bwysig i ni ofalu eu bod nhw wedi cael y sylw dilynol cywir ac nad yw’r annormaledd yn dod yn ei ôl. Os ydych chi’n perthyn i’r grŵp yma, byddwch chi’n dal i gael eich gwahodd i ddod i gael profion taeniad.

Os na chawsoch chi brawf taeniad serfigol erioed, mae’n bwysig i chi gael un, waeth beth yw’ch oedran. Os na chawsoch chi berthynas rywiol erioed, gallwch chi drafod y mater gyda’ch meddyg teulu.

Er bod canser gwddf y groth i’w weld mewn gwragedd hŷn, gall hynny fod oherwydd nad yw’r wraig wedi cael prawf taeniad erioed neu ei bod hi heb gael digon o brofion. Hyd yn oed os bu pob un o’ch profion taeniad yn normal hyd yn hyn, mae’n bwysig iawn i chi sôn wrth eich meddyg teulu am unrhyw waedu neu redlif anarferol.