Gwneud penderfyniadau ynglŷn â sgrinio

Canllawiau i deuluoedd, ffrindiau a gofalwyr

Mae’r daflen yma’n cynnig gwybodaeth i’r rhai sy’n gofalu am bobl sydd heb y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau ynglŷn â dod i gael eu sgrinio neu beidio.

Beth yw galluedd meddyliol?

Mae bod â galluedd meddyliol yn golygu gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun. Mae rhywun sydd heb alluedd meddyliol yn methu gwneud un neu fwy o’r pedwar peth sy’n dilyn:

  • Deall gwybodaeth maen nhw’n ei chael gan rywun arall
  • Cadw’r wybodaeth yn eu cof yn ddigon hir i allu gwneud penderfyniad
  • Pwyso a mesur y wybodaeth sydd ar gael cyn gwneud penderfyniad
  • Cyfleu eu penderfyniad i rywun arall. Efallai na fydd rhai pobl yn gallu gwneud penderfyniadau am gyfnodau neilltuol o amser, er enghraifft, pobl â salwch meddwl.

Mae Deddf Galluedd Meddyliol yn disgrifio pum prif egwyddor:

  • Mae hawl gan bob oedolyn i wneud ei benderfyniadau ei hun, oni bai bod modd dangos nad yw’r gallu ganddo i’w gwneud
  • Dylai pawb gael yr holl help a chefnogaeth y maen nhw eu hangen i wneud penderfyniad
  • Mae pobl yn cael gwneud yr hyn sy’n ymddangos i rywun arall fel penderfyniad annoeth
  • Rhaid gallu dangos bod camau gweithredu neu benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar ran rhywun arall, yn cael eu gwneud er eu lles pennaf
  • Rhaid i bobl sydd heb alluedd beidio â chael eu cyfyngu’n ddiangen

Efallai y bydd galw ar unrhyw un – gweithiwr proffesiynol yn y sectorau gofal neu iechyd, gweithiwr proffesiynol arall, perthynas neu ofalwr – i benderfynu a oes galluedd gan rywun i wneud penderfyniad neilltuol. Efallai y bydd galluedd gan rai pobl i roi eu caniatâd, ar ôl cael help a chefnogaeth. Fe allai’r gefnogaeth ddod gan ddehonglydd neu rywun fel nyrs anabledd dysgu, er enghraifft.

Mae’r Ddeddf yn caniatáu i bobl 18 oed a hŷn benodi rhywun arall i wneud eu penderfyniadau iechyd drostyn nhw, os nad ydyn nhw’n gallu gwneud y penderfyniadau eu hunain. Yr enw ar hyn yw Atwrneiaeth Arhosol dros Les Personol. Mae’r person sy’n cael ei ddewis i wneud y penderfyniadau’n cael ei alw’n Atwrnai. Rhaid i bob penderfyniad mae Atwrnai’n ei wneud fod er lles pennaf y person dan sylw.

Os ydych chi’n gofalu am rywun sydd ddim yn deall y broses o benodi Atwrnai, efallai y bydd angen i chi ystyried gwneud cais i’r Llys Gwarchod i gael yr hawl i wneud penderfyniadau ar ei ran fel Dirprwy.

Beth yw sgrinio?

Nod sgrinio yw dod o hyd yn gynnar iawn i rai mathau neilltuol o ganser. Fe allai hyn gwneud unrhyw driniaeth yn fwy effeithiol. Nid yw sgrinio’n dod o hyd i bob annormaledd, ac efallai y bydd sgrinio’n golygu bod angen gwneud mwy o brofion neu archwiliadau.

Mae gwahoddiadau sgrinio’n cael eu hanfon yn rheolaidd, bob dwy neu dair blynedd fel arfer. Y cam cyntaf yw anfon llythyr yn gwahodd y person i ddod i gael ei sgrinio, a’r ail gam yw anfon llythyr atgoffa os nad yw’n dod.

Sut dylwn i benderfynu beth yw lles pennaf yr unigolyn?

Mae sawl peth i chi eu hystyried:

  • Oes posibilrwydd y gallai’r unigolyn gael ei alluedd yn ôl? Os felly, efallai fod lle i ohirio’r penderfyniad
  • Rhaid i’r unigolyn fod yn rhan o’r broses o wneud unrhyw benderfyniad
  • A yw’r unigolyn wedi cyfleu cyn hyn unrhyw ddymuniadau neu deimladau, credoau neu werthoedd a allai effeithio ar y penderfyniad?
  • Oes unrhyw ffactorau eraill y byddai’r unigolyn yn debyg o’u hystyried, pe bai’n gallu gwneud hynny?

Os ydych chi’n asesu lles pennaf yr unigolyn, rhaid i chi ymgynghori â gofalwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn ei les. Dylech chi ymgynghori ag unrhyw un y mae’r unigolyn ei hun wedi’i enwi fel rhywun i chi ymgynghori â nhw, ac ymgynghori ag unrhyw Atwrnai neu Ddirprwy sydd wedi cael ei benodi.

Bydd angen pwyso a mesur yr holl ffactorau i’ch helpu i benderfynu beth sydd er lles pennaf yr unigolyn.

Beth os gwnaf i benderfynu yn erbyn sgrinio?

Ar ôl i’r gwahoddiad ddod i law, gallwch chi ei anwybyddu os ydych chi’n teimlo nad yw sgrinio er lles pennaf yr unigolyn ar hyn o bryd. Bydd ail lythyr atgoffa’n cael ei anfon, ond gallwch chi anwybyddu’r llythyr hwnnw hefyd.

Mewn rhai achosion prin, mae’n bosib canslo’r holl wahoddiadau sgrinio. Os nad yw’r unigolyn dan sylw’n gallu rhoi ei ganiatâd i gael ei sgrinio, ac nid yw’n debygol o allu gwneud hynny byth, efallai y byddai er ei les pennaf i ganslo’r holl wahoddiadau. Os felly, bydd angen i feddyg teulu’r unigolyn ysgrifennu at Gydgysylltydd Rhanbarthol y Rhaglen i gadarnhau hyn.

Ble gallaf i gael rhagor o wybodaeth?

Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar:

http://www.publicguardian.gov.uk/

Mae mwy o ganllawiau ynglŷn â Deddf Galluedd Meddyliol i’w cael ar ffurf llyfrynnau gwybodaeth electronig ar:

www.dca.gov.uk/legal-policy/mental-capacity/publications.htm

[CSW20(Ver 1) 12/10]