A ddylai pob menyw gael profion taeniad serfigol?
Chefais i byth unrhyw gysylltiad rhywiol â dyn – oes perygl y gallaf i gael canser gwddf y groth?
Os na chawsoch chi erioed unrhyw gysylltiad rhywiol â dyn, mae’r risg yn isel ond nid yw’n golygu nad oes risg o gwbl y gallech chi gael canser gwddf y groth. Nid yw’n gwbl glir eto beth sy’n achosi i annormaleddau ddatblygu. Yn aml, feirws sydd wedi heintio gwddf y groth. Yr enw ar y feirws yma yw papiloma dynol (FPD), ac mae’n cael ei drosglwyddo yn ystod cysylltiad rhywiol.
Mae’n bosib trosglwyddo FPD yn ystod mathau eraill o weithredoedd rhywiol, heblaw am gyfathrach rywiol lawn. Mae hynny’n wir am fenywod heterorywiol, menywod deurywiol a lesbiaid. Mae FPD yn cael ei drosglwyddo yn hylifau’r corff. Mae hynny’n golygu bod rhyw eneuol, trosglwyddo hylifau'r wain (fagina) ar y dwylo neu'r bysedd, neu rannu teganau rhyw’n gallu bod yn ffyrdd o drosglwyddo FPD o berson i berson.
Chefais i byth gyfathrach rywiol lawn – a fyddai prawf taeniad yn boenus?
Os na chawsoch chi gyfathrach rywiol erioed ond rydych chi’n awyddus i gael prawf taeniad, dylech chi ddweud wrth y meddyg neu’r nyrs sy’n gwneud y prawf nad ydych chi wedi cael cyfathrach rywiol erioed. Bydd cael y wybodaeth yn eu helpu i ddewis y teclyn (sbecwlwm) o’r maint iawn. Yn yr un ffordd, os nad ydych chi erioed wedi defnyddio tamponau, dywedwch hynny wrth y person sy’n gwneud eich prawf taeniad.
Fel yn achos unrhyw fath o archwiliad meddygol, mae gennych chi hawl i ddweud ‘stop’ ar unrhyw adeg.
Chefais i ddim cysylltiad rhywiol ers blynyddoedd lawer – oes angen i mi gael prawf taeniad?
Mae’r feirws FPD yn gallu aros yng ngwddf y groth am flynyddoedd lawer. Oherwydd hyn, rydyn ni’n cynghori unrhyw fenywod sydd wedi cael cyfathrach rywiol yn ystod eu hoes y dylen nhw gael eu sgrinio tan fyddan nhw'n 65 oed.
Beth yw sgrinio gwddf y groth?
Mae profion taeniad serfigol (sgrinio gwddf y groth) yn cael eu gwneud fel rhan o un o raglenni sgrinio cenedlaethol y Gwasanaeth Iechyd. Sgrinio Serfigol Cymru sy’n trefnu’r rhaglen yng Nghymru.
Nid prawf am ganser yw sgrinio gwddf y groth. Pwrpas y prawf yw canfod annormaleddau posib neu newidiadau yn y celloedd a allai, heb eu trin, ddatblygu'n ganser gwddf y groth. Yr enw ar y math o ganser gwddf y groth mae’r rhaglen sgrinio serfigol wedi’i chreu i’w atal, yw carsinoma cennog gwddf y groth.
Oes unrhyw fathau eraill o ganser gwddf y groth?
Mae mathau eraill o ganser yn gallu effeithio ar wddf y groth, ac mae’r prawf taeniad yn gallu adnabod rhai o’r rhain.
Mae’n bosib trin yn llwyddiannus bron pob math o annormaledd sy’n dod i’r amlwg drwy sgrinio. Yr amcangyfrif yw bod sgrinio’n rhwystro tua 3900 o achosion o ganser gwddf y groth yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, ac yn achub dros 1000 o fenywod a fyddai wedi marw o’r clefyd.
Beth yw symptomau canser gwddf y groth?
Y symptom mwyaf cyffredin yw gwaedu o’r wain ar adegau heblaw am yn ystod eich mislif. Mae hyn yn cynnwys yn ystod ac ar ôl rhyw treiddiol, a gwaedu ar unrhyw adeg os ydych chi wedi dod i ddiwedd y menopos. Ymhlith y symptomau eraill mae rhedlif drewllyd o’r wain, a phoen neu anghysur yn ystod rhyw treiddiol. Mae cyflyrau eraill sy’n llai difrifol o lawer na chanser gwddf y groth yn gallu achosi’r un symptomau. Os ydych chi’n poeni, dylech chi siarad â’ch meddyg teulu neu ewch i Glinig Iechyd Rhywiol i ofyn am gyngor.
[CSW03(Ver 4) 4/11]