Croeso i wefan Sgrinio Serfigol Cymru
Sgrinio Serfigol Cymru sy’n gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Mae hynny’n cynnwys anfon gwahoddiadau’n awtomatig. Rydyn ni’n cymryd eich manylion o restr eich meddyg, felly mae’n bwysig bod eich enw a’ch cyfeiriad cywir gan eich meddyg bob amser. Os gwnaethoch chi ddewis cael taeniad yn breifat yn y gorffennol, mae hawl gennych chi o hyd i gael taeniad y Gwasanaeth Iechyd. Felly, byddwch chi’n dal i gael gwahoddiad pan ddaw’r adeg i chi gael eich taeniad Gwasanaeth Iechyd.
Nod y rhaglen Sgrinio Serfigol
Nod y rhaglen sgrinio serfigol yw lleihau nifer yr achosion o ganser ymledol gwddf y groth, a lleihau nifer y bobl sy’n wael neu’n marw o’r clefyd. Ond rhaid cofio hefyd y gall sgrinio achosi niwed corfforol a seicolegol i’r merched sy’n cael eu galw. Rhaid cyfyngu ar y niwed hwn gymaint â phosib fel bod manteision sgrinio’n mwy na chyfiawnhau’r costau. Rhaid cael cydbwysedd rhwng bod mor effeithiol â phosib a chwtogi gymaint â phosib ar unrhyw niwed.
Y Boblogaeth Gymwys
Y grŵp targed ar gyfer sgrinio serfigol yw menywod 20-64 oed.
Y prif negeseuon i fenywod
- Nid prawf am ganser yw sgrinio serfigol. Mae’n chwilio am abnormaleddau posib neu newidiadau yn y celloedd a allai, heb eu trin, ddatblygu’n ganser.
- Mae bron pob abnormaledd yn cael ei drin yn llwyddiannus.
- Mae archwilio taeniadau serfigol yn broses sy’n gofyn am lawer o sgiliau. Fel y rhan fwyaf o brofion meddygol, nid yw’n 100% gywir. Ond mae cael prawf taeniad yn rheolaidd yn golygu ei bod hi’n llai tebygol y bydd abnormaledd yn aros heb ei weld.
- Mae’r rhan fwyaf o ganlyniadau’n normal – dim celloedd annormal i’w gweld. Nid oes angen ymchwilio ymhellach. Ond fe ddylech chi barhau i ddod i gael eich profion taeniad rheolaidd pan gewch chi’n gwahodd.
- Mae canlyniad normal yn golygu nad oedd unrhyw abnormaledd i’w weld y tro hwnnw, ond nid yw’n warant nad oes unrhyw abnormaleddau’n bresennol.
- Os byddwch chi byth yn cael unrhyw waedu afreolaidd neu anarferol neu redlif dywedwch wrth eich meddyg teulu, hyd yn oed os cawsoch chi ganlyniad negyddol i brawf taeniad diweddar.
Y diweddariad diwethaf: Medi 2008