Y Firws Papiloma Dynol (HPV) Facts
Related websites:
Beating Cervical Cancer
Immunisation - the safest way to protect your child
Beth yw HPV?
Mae HPV yn golygu’r Firws Papiloma Dynol, firws cyffredin iawn y daw’r mwyafrif o ferched i gysylltiad ag e ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae llawer o wahanol fathau o’r firws ac nid yw’r mwyafrif yn achosi problemau. Mae rhif yn cael ei ddefnyddio i ddynodi’r gwahanol fathau.
Beth mae’r firysau’n ei wneud?
Yn achos y mwyafrif o ferched – dim. Bydd y corff yn cael gwared â’r firws ar ei ben ei hun. Ond mae rhai mathau’n gallu achosi problemau ar y croen. Gallan nhw gyfrif fel mathau risg uchel neu risg isel yn ôl y math o broblemau y maen nhw’n debyg o’u hachosi. I rai merched, mae mathau risg uchel yn achosi newidiadau yn y croen sy’n gorchuddio gwddf y groth (y serfics). Abnormaleddau serfigol yw’r enw ar y newidiadau hyn. Gallan nhw gynnwys celloedd annormal o’r enw neoplasia mewnepithelaidd serfigol (CIN) sy’n gallu arwain at ganser gwddf y groth mewn rhai merched.
Mae’r mathau risg isel yn gallu achosi dafadennau (warts). Mae’n bwysig deall bod y mathau risg uchel yn wahanol i’r rhai risg isel. Nid yw bod â dafadennau’n golygu y byddwch chi’n datblygu canser gwddf y groth.
Mathau 16 ac 18 yw’r rhai risg uchel mwyaf cyffredin. Mathau 6 ac 11 yw’r mathau risg isel mwyaf cyffredin. Ond mae llawer mwy o wahanol fathau.
Sut mae dal HPV?
Mae HPV yn lledu wrth i groen ddod i gysylltiad â chroen. Yng ngwddf y groth, mae hyn fel arfer yn digwydd trwy gyswllt rhywiol.
A yw HPV yn gyffredin?
Ydi. Mae’n debyg bod y mwyafrif o ferched yn cael eu heintio ar ryw adeg, heb wybod hynny. Mae mecanwaith amddiffyn (system imiwnedd) y corff ei hun yn cael gwared â’r firws.
Sut byddwn i’n gwybod bod y firws arna’ i?
Nid yw’r firws ei hun yn achosi unrhyw symptomau, hyd yn oed os oes newidiadau annormal yng nghelloedd gwddf y groth (CIN). Os yw’r firws wedi achosi CIN (sydd weithiau’n cael ei alw’n “newidiadau cyn-ganseraidd”), mae’n dod i’r golwg fel arfer wrth wneud prawf taeniad serfigol. Mae modd ei drin wedyn cyn iddo droi’n ganser. Ond mae’n bwysig cofio hefyd nad CIN sy’n gyfrifol am bob abnormaledd sy’n dod i’r golwg wrth wneud prawf taeniad. Efallai mai llid (inflammation) sy’n gyfrifol am rai, gan fod y firws yno ar adeg gwneud y taeniad cyn i’r corff gael cyfle i gael ei wared.
Haint yw HPV – felly, pryd cefais i’r haint
Er ein bod ni’n arfer sôn am haint wrth gyfeirio at firws HPV, gall aros yn fud yn y corff am nifer o flynyddoedd a dod yn actif amser maith ar ôl eich cysylltiad cyntaf â’r firws. Yn wir, gall fethu â dod yn actif mewn rhai pobl gan eu bod nhw’n datblygu rhyw fath o imiwnedd i’r firws. Mae’n amhosib dweud pryd a ble y daethoch chi i gysylltiad â’r firws.
Oes unrhyw brofion ar gyfer HPV?
Nid yw’n arferol gwneud profion i chwilio am HPV ar hyn o bryd, gan ei fod yn anodd dod o hyd iddo mewn labordy. Weithiau mae’n bosib gweld newidiadau sy’n debyg i haint HPV ar daeniad neu fiopsi gwddf y groth (os buoch chi mewn clinig colposgopi). Mae nifer o astudiaethau ymchwil wrthi’n asesu ar hyn o bryd a oes modd gwneud profion HPV yn rhan o’r rhaglen sgrinio serfigol, a pha brawf yw’r un gorau.
Oes modd ei drin?
Gan mai firws yw HPV nid oes modd ei drin â chyffuriau gwrthfiotig. Yn ffodus, bydd cyrff y mwyafrif o ferched yn cael gwared â’r firws ar eu pen eu hunain. Ond os cewch chi brawf taeniad annormal, efallai y bydd gofyn ei ymchwilio mewn clinig colposgopi i asesu a oes celloedd annormal (CIN) gennych chi. Os felly, mae’n bosib trin y rhan fwyaf o achosion o CIN yn llwyddiannus mewn clinig i gleifion allanol.
Oes modd i ddynion ei ddal?
Er ei bod hi’n debygol bod dynion yn gallu trosglwyddo’r haint, anaml iawn y mae’r firws yn achosi unrhyw broblemau i ddyn.
Sut galla’ i ei osgoi?
Efallai fod defnyddio condomau’n lleihau’r perygl, ond fyddan nhw ddim yn eich amddiffyn chi’n gyfan gwbl er bod condomau’n amddiffyn rhag heintiau eraill. Mae cael profion taeniad rheolaidd yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd CIN yn dod i’r golwg pan mae’n hawdd ei drin a chyn iddo ddatblygu’n ganser.
A yw’n achosi anffrwythlondeb (infertility)?
Na
A yw’n achosi AIDS?
Na
Beth am ysmygu?
Mae’n glir y gall ysmygu wanhau system imiwnedd eich corff, sy’n ei gwneud hi’n llawer anoddach i’r corff gael gwared â’r firws. Mae hyn yn golygu bod eich risg o gael CIN neu ganser gwddf y groth yn uwch.
Beth am y dyfodol?
Ar 26 Hydref 2007, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar sail cyngor y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), y byddai’n cynnwys brechlyn yn erbyn y firws papiloma dynol (HPV) yn y rhaglen imiwneiddio genedlaethol.
Dan y drefn newydd sy’n dechrau ym mis Medi 2008, bydd merched 12-13 oed yn cael cyfle i gael y brechlyn newydd. Bydd rhaglen dal i fyny dwy flynedd o hyd yn dechrau yn hydref 2009 ar gyfer merched hyd at 18 oed. Bydd Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’n mynd ati’n awr i gynllunio sut i roi’r rhaglen frechu ar waith yn eu hardaloedd. Cyngor JCVI oedd mai brechu rhag HPV mewn ysgolion a fyddai’r drefn fwyaf effeithiol.
Gallai’r rhaglen wneud llawer yn y dyfodol i leihau o hyd at 70% nifer yr achosion o ganser y serfics. Mae’n bwysig pwysleisio na fydd cyflwyno'r brechlyn HPV yn lleihau o gwbl ar yr angen am y rhaglen sgrinio serfigol.
Mae Llywodraeth y Cynulliad a’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (NPHS) wrthi'n gweithio ar y materion sy'n codi yn sgil y rhaglen: er enghraifft, cyflenwi'r brechlyn, data ar y nifer sy’n dewis cael brechiad, cyfathrebu, ariannu, a deunyddiau hyfforddi.
Peter Farley
Pennaeth Gweithredol yr Is-adran Diogelu Iechyd
Adran Iechyd y Cyhoedd a’r Proffesiynau Iechyd
[CSW18(Ver1)10/06 - amended]