Gwybodaeth am Sgrinio
Beth yw sgrinio?
Mae sgrinio'r fron yn chwilio am ganser y fron cyn i symptomau ddod i'r golwg. Mae'n golygu tynnu pelydrau-x (mamogramau) o'r fron. Tynnir o leiaf dau belydr-x o'r naill fron a'r llall. Cael gwybod mwy am gael mamogramau (gwefan Coleg Brenhinol y Radiolegwyr).
Pam mae sgrinio’n bwysig?
Gall canser y fron effeithio ar unrhyw ferch ond mae'n fwy cyffredin mewn merched dros 50 oed. Mae'r risg o ddatblygu canser y fron yn gysylltiedig ag oedran – po hynaf ydych chi, po uchaf eich risg. Bydd yn effeithio ar un mewn naw o ferched Cymru ar ryw adeg o'i bywyd. Os down ni o hyd i ganser y fron yn gynnar, mae siawns well y bydd triniaeth yn llwyddo. Cael mamogramau rheolaidd yw'r ffordd orau o sgrinio am ganser y fron am fod posibilrwydd na allwch chi weld neu deimlo newidiadau cynnar.
Pa mor gywir yw sgrinio’r fron?
Mamogramau yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ganfod canser y fron yn gynnar. Fel profion sgrinio eraill, dydyn nhw ddim yn berffaith. Er enghraifft:
- mae rhai canserau'n anodd iawn eu gweld
- mae'n amhosib gweld rhai canserau, er eu bod nhw yno
- fe allai'r un sy'n darllen y pelydr-x fethu'r canser. Fe fydd hyn yn digwydd weithiau, waeth pa mor brofiadol yw'r darllenydd. Ein nod yw gofalu bod dau arbenigwr yn gwirio'r holl famogramau.
Pwy sy’n cael eu sgrinio gan Bron Brawf Cymru?
Proffesiynau o fewn sgrinio’r fron
Pa dystiolaeth sy’n sail i gynnig sgrinio’r fron i boblogaeth?
Gwybodaeth i’r rheini ag anableddau dysgu (gwefan rhaglen sgrinio’r fron y GIG)



