• pwy sy’n cael eu sgrinio?
  • trefnu apwyntiad
  • pan fo angen i chi gael mwy o brofion
  • oes symptomau arnoch chi?
Google custom search Public Health Wales - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ddylech chi gael eich sgrinio?

I'ch helpu chi i benderfynu a fyddwch chi'n dod i gael sgrinio’ch bronnau ai peidio, rydyn ni'n rhestru yma brif fanteision ac anfanteision sgrinio am ganser y fron.

  • Mae sgrinio'r fron yn lleihau'r perygl o farw o ganser y fron.
  • Bydd sgrinio'n methu rhai canserau ar y fron.
  • Mae'r rhan fwyaf o ganserau'r fron a gaiff eu canfod wrth sgrinio'n rhai cynnar iawn, pan mae cyfle da i driniaeth lwyddo.
  • Allwn ni ddim gwella pob canser y fron a gaiff ei ganfod wrth sgrinio.
  • Byddwn ni'n galw merched yn ôl i gael mwy o brofion os byddwn ni'n ansicr beth sydd i'w weld ar y mamogramau. Os cewch chi'ch galw'n ôl, fe all greu pryder. Ond byddwn ni'n canfod nad oes canser ar lawer o'r merched yma.
  • Rydyn ni'n canfod dros 700 o ganserau bob blwyddyn.
  • Mae rhai merched o'r farn fod mamogramau'n anghyfforddus neu'n boenus, ond dim ond am gyfnod byr fel arfer.
  • Wrth i ferch fynd yn hŷn mae ei risg o gael canser y fron yn cynyddu. Mae risg gwragedd dros 70 oed yn uwch na’r rhai yn y grŵp oedran sy’n cael eu gwahodd yn rheolaidd.

I gael mwy o wybodaeth am beryglon a manteision sgrinio cyfeiriwch at dudalennau 28 i 31 o Adroddiad y Cyfarwyddwr 2003.

A yw’r ymbelydredd yn achosi risg?

Yn Bron Brawf Cymru, rydyn ni’n defnyddio mamograffi i ddod o hyd i ganser y fron. Mae hynny’n golygu anfon ymbelydredd (radiation) (sef pelydrau X) drwy’r fron i greu llun (mamogram). Mae ymbelydredd yn gallu achosi canser, ond mae risg mamograffi’n isel iawn. Mae’r manteision yn drech o lawer na risg yr ymbelydredd. Mae nifer y bywydau sy’n cael eu harbed drwy ddod o hyd i ganser y fron, a’i drin, yn llawer uwch na nifer y bywydau a allai gael eu colli oherwydd canser a achoswyd gan ymbelydredd. [darllen mwy am y peryglon o ymbelydredd mamograffeg]