Trefnu apwyntiad
Os ydych chi rhwng 50 a 70 oed
- does dim angen i chi wneud unrhyw beth. Byddwn ni’n eich gwahodd chi’n awtomatig bob tair blynedd. Rydyn ni'n defnyddio rhestri cleifion meddygon teulu i adnabod merched, felly mae'n bwysig bod eich enw a'ch cyfeiriad cywir gan eich doctor bob amser.
Rydyn ni'n gwahodd merched o bractis pob doctor yn ei dro. Fyddwch chi ddim o angenrheidrwydd yn cael eich gwahoddiad y flwyddyn y byddwch chi'n cyrraedd 50. Cyn belled â'ch bod chi wedi'ch cofrestru â doctor, fe fyddwn ni'n eich galw chi i gael sgrinio'ch bronnau cyn eich pen-blwydd yn 53.
Os gwnaethoch chi fethu’ch apwyntiad ond rydych chi am gael eich sgrinio
- gallwch chi gael eich sgrinio. Ffoniwch ni i drefnu apwyntiad.
Os ydych chi dan 50 oed
- allwch chi ddim trefnu apwyntiad gyda ni. Does dim tystiolaeth eto i brofi bod cynnig sgrinio arferol ar y fron i ferched dan 50 oed, sydd heb symptomau, yn gostwng y nifer sy'n marw o ganser y fron.
Os ydych chi dros 70 oed
- gallwch chi barhau i gael eich sgrinio. Gofynnwch i ni am apwyntiad bob tair blynedd drwy gysylltu â chanolfan sgrinio Bron Brawf Cymru yn eich ardal.



