Gwybodaeth am Sgrinio
Esbonio sgrinio'r fron
Mae gwybodaeth yn y daflen hon am gael sgrinio’ch bronnau am ddim. Mae Bron Brawf Cymru’n rhan o raglen sgrinio’r fron y GIG. Mae sgrinio’r fron wedi’i anelu at bob menyw 50 oed a hŷn.
1 Beth yw sgrinio'r fron?
Mae sgrinio’r fron yn chwilio am ganser y fron cyn i symptomau ddod i’r golwg. Mae’n golygu tynnu mamogramau, sef pelydrau-x o’r fron. Bydd o leiaf dau famogram o bob bron yn cael eu tynnu.
2 Pam mae sgrinio'n bwysig?
Mae canser y fron yn effeithio ar un o bob naw o’r menywod sy’n byw yng Nghymru. Mae’n fwy cyffredin mewn menywod dros 50 oed, ond mae’r risg yn cynyddu wrth i rywun fynd yn hŷn. Bob blwyddyn, mae dros 2000 o fenywod yng Nghymru'n cael diagnosis o ganser y fron, ac mae tua 600 yn marw o'r clefyd.
Os byddwn ni’n dod o hyd i ganser y fron yn gynnar, mae cyfle gwell y bydd triniaeth yn llwyddo. Cael mamogramau rheolaidd yw’r ffordd orau o chwilio am ganser y fron am fod posibilrwydd na allwch chi weld neu deimlo newidiadau cynnar. Mae tystiolaeth wedi dangos bod sgrinio’r fron yn cwtogi tua 35% ar y risg o farw o ganser y fron.
3 Oes unrhyw beryglon yn gysylltiedig â sgrinio’r fron?
Mae unrhyw belydr-x yn golygu defnyddio ymbelydredd, ond ychydig iawn mae mamogramau’n ei ddefnyddio. Mae’n golygu tua’r un faint ag y byddai rhywun yn ei gael wrth hedfan o Gaerdydd i Awstralia ac yn ôl.
Efallai y bydd cael canlyniad normal yn ormod o gysur i chi, a gallwch chi gredu nad oes perygl i chi ddatblygu canser y fron cyn eich prawf sgrinio nesaf. Bydd sgrinio’n methu rhai canserau, a bydd rhai canserau’n datblygu rhwng y profion sgrinio. Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw newidiadau neu os ydych chi’n poeni am unrhyw beth rhwng eich apwyntiadau, ewch at eich meddyg teulu ar unwaith. Peidiwch ag aros tan eich apwyntiad arferol nesaf i gael eich sgrinio.
Mae menywod ag annormaleddau posib ar eu mamogramau’n cael eu galw’n ôl i gael mwy o brofion. Gallai'r rhain gynnwys pelydrau-x, uwchsain a biopsi (cymryd samplau o feinweoedd y fron). Bydd tua un fenyw o bob 20 yn cael ei galw’n ôl i gael mwy o brofion, ond dim ond tua un o bob chwech o’r menywod hyn allai gael diagnosis o ganser y fron. Mae hyn yn golygu y bydd tua 40 menyw o bob 1000 sy’n cael eu sgrinio’n poeni am gael mwy o brofion pan nad oes canser y fron arnyn nhw.
4 Faint o achosion o ganser y fron ydych chi’n eu datgelu?
Rydyn ni’n sgrinio tua 100,000 o fenywod bob blwyddyn. Mae’r rhan fwyaf yn iawn, ond bydd sgrinio’r fron yn dangos bod canser y fron ar tua 850 o fenywod (ychydig yn llai nag un fenyw o bob 100 sy’n cael eu sgrinio) yng Nghymru bob blwyddyn.
Bydd profion yn dangos bod carsinoma’r ddwythell in situ (DCIS) ar tua un fenyw o bob 1000 sy’n cael eu sgrinio. Mae hyn yn golygu bod celloedd y canser wedi'u dal yn gyfan gwbl yn nwythellau'r fron. Nid ydyn nhw wedi ymledu i feinweoedd y fron nac i ran arall o'r corff. Heb ei drin, mae DCIS yn gallu datblygu’n ganser ymledol ar y fron. Ni fydd pob achos o DCIS yn datblygu’n ganser ymledol. Ond ar ôl dod o hyd iddo mae’n cael ei drin fel arfer, gan nad yw’n bosib dweud yn bendant pa fannau fyddai’n datblygu’n ganser neu beidio heb driniaeth.
5 Pwy ydych chi’n eu sgrinio?
Rydyn ni’n dilyn y patrwm sy’n cael ei argymell, sef gwahodd menywod 50-70 oed bob tair blynedd. Rydyn ni’n defnyddio rhestri meddygon teulu i adnabod y menywod, felly mae’n bwysig bod eich enw a’ch cyfeiriad cywir gan eich meddyg teulu bob amser.
Rydyn ni’n gwahodd y menywod o bractis pob meddyg yn ei dro. Fyddwch chi ddim o angenrheidrwydd yn cael eich gwahoddiad cyntaf yn ystod y flwyddyn rydych chi’n cyrraedd 50. Cyn belled â'ch bod chi wedi cofrestru gyda meddyg, byddwn ni'n eich gwahodd i gael sgrinio'ch bronnau cyn eich pen-blwydd yn 53.
Mae croeso i wragedd dros 70 oed ofyn i ni am apwyntiad trwy gysylltu â chanolfan sgrinio Bron Brawf Cymru yn eu hardal.
Bydd menywod 50-70 oed sy’n mynd i glinig y fron mewn ysbyty i gael mwy o brofion yn dal i gael gwahoddiadau gennym ni os nad ydyn nhw wedi gofyn i ni beidio â’u galw.
Efallai hefyd y byddwn ni’n gwahodd menywod sydd wedi cael mastectomi dwyochrog (tynnu’r ddwy fron) os nad ydyn nhw neu eu meddyg teulu wedi rhoi gwybod i ni am eu llawdriniaeth.
Rhowch wybod i ni ar unwaith os ydych chi’n credu na ddylech chi fod wedi cael eich gwahodd.
Mae tystiolaeth yn dal i awgrymu nad yw sgrinio bronnau menywod dan 50 oed yn effeithiol.
Pa oedran bynnag ydych chi, cysylltwch â’ch meddyg teulu os ydych chi’n poeni am unrhyw broblem ar eich bronnau. Gallai’ch meddyg eich cyfeirio at glinig y fron yn eich ysbyty lleol.
6 I ble fyddaf i’n mynd i gael fy sgrinio?
Rydyn ni’n gwneud y profion sgrinio mewn uned sgrinio symudol neu yn un o’n canolfannau sgrinio. Mae’ch llythyr gwahoddiad yn dweud wrthych chi ble i fynd a sut y gallwch chi newid eich apwyntiad.
7 Beth ddylwn i wisgo?
Efallai ei bod hi’n haws i chi wisgo top ar wahân gan y bydd rhaid i chi dynnu’ch dillad at eich gwasg. Gallwch chi wisgo diaroglydd os ydych chi eisiau; ni fydd yn effeithio ar y broses.
8 Beth fydd yn digwydd?
Ar ôl i chi gyrraedd, byddwn ni’n gwirio’ch manylion personol ac yn mynd â chi i giwbicl newid preifat. Bydd radiograffydd neu ymarferydd mamograffeg benywaidd yn mynd â chi oddi yno i ystafell arall i gael eich mamogramau. Bydd hi’n esbonio’r broses i chi ac yn ateb unrhyw gwestiynau’r ydych chi am eu gofyn. Bydd hi wedyn yn rhoi’ch bronnau, un ar y tro, rhwng dau blât arbennig ac yn tynnu’r mamogramau.
9 Fydd y weithred yn boenus?
Mae rhai menywod yn teimlo bod y weithred yn anghyfforddus ac ambell i un yn teimlo’i bod yn boenus. Mae angen i ni bwyso’ch bronnau rhwng y ddau blât i greu mamogramau o safon wrth ddefnyddio dos isel o ymbelydredd. Dim ond am ychydig eiliadau y bydd y pwyso’n para. Os byddwch chi’n teimlo poen, dim ond yn ystod y prawf y bydd y boen yn para fel arfer. I nifer bach iawn o fenywod, gallai’r boen bara am beth amser.
10 Beth fydd yn digwydd nesa?
Bydd ein staff arbenigol yn gwirio’ch mamogramau. Ein nod yw anfon eich canlyniad atoch drwy’r post o fewn tair wythnos. Rydyn ni hefyd yn rhoi gwybod i’ch meddyg teulu am y canlyniad.
Byddwn ni wedyn yn gwahodd menywod 50-70 oed eto mewn tair blynedd, fel rhan o’r broses sgrinio arferol.
11 Pam y gallwn i gael fy ngalw’n ôl?
Weithiau mae angen i ni’ch galw chi’n ôl oherwydd nam technegol. Byddwn ni’n dweud wrthych chi os dyna’r rheswm dros eich galw chi.
Rydyn ni’n galw’n ôl tua un fenyw o bob 20 rydyn ni'n eu sgrinio am fod canlyniadau’r mamogram yn awgrymu bod angen gwneud mwy o brofion. Gallai’r profion hyn gynnwys mwy o famogramau, archwiliad clinigol, sgan uwchsain, a biopsi nodwydd efallai. Ni fydd unrhyw broblemau ar y rhan fwyaf o’r menywod hyn, neu efallai fod ganddyn nhw annormaleddau diniwed ar y fron. Byddwn ni’n eu galw’n ôl eto mewn tair blynedd fel rhan o’r broses sgrinio arferol.
12 Beth os oes angen triniaeth arnaf i?
Os byddwch chi’n cael diagnosis o ganser y fron, dod o hyd iddo’n gynnar sy’n rhoi’r cyfle gorau i’r driniaeth lwyddo. Byddwn ni’n trafod pob un o’r opsiynau’n llawn gyda chi, ac yn trefnu eich triniaeth. Efallai y bydd rhywun yn gofyn i chi gymryd rhan mewn treial er mwyn pwyso a mesur pa mor effeithiol yw triniaethau newydd.
13 Beth fydd yn digwydd i fy mhelydrau-x ar ôl iddyn nhw gael eu gwirio?
Rydyn ni’n cadw pob un o’ch mamogramau fel y gallwn ni:
- gymharu’ch mamogramau diweddaraf â’r rhai a gawsoch chi o’r blaen.
- adolygu’r holl gofnodion sgrinio, yn cynnwys mamogramau.
- hyfforddi a gwella sgiliau ein staff arbenigol.
- mesur ansawdd y gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig.
Efallai y bydd gofyn i staff sy’n gweithio mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth iechyd weld eich cofnodion i helpu gyda’ch gofal meddygol. Os bydd adolygiad yn dangos y dylech chi fod wedi cael math gwahanol o ofal, byddwn ni’n cysylltu â chi. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am eich achos, gallwn ni roi’r wybodaeth i chi.
Am fwy o wybodaeth am y cofnodion rydyn ni’n eu cadw, cysylltwch â chanolfan sgrinio Bron Brawf Cymru yn eich ardal. Gofynnwch am ein taflen 'Ein dulliau o ddefnyddio gwybodaeth amdanoch chi.'
14 Pa mor gywir yw sgrinio’r fron?
Mamogramau yw’r ffordd orau o ddod o hyd i ganser y fron yn gynnar, ond nid ydyn nhw’n berffaith. Er enghraifft:
- mae rhai canserau’n anodd iawn eu gweld;
- mae’n amhosib gweld rhai canserau, er eu bod nhw yno; a
- gallai’r person sy’n darllen y mamogram fethu’r canser. (Mae hyn yn digwydd weithiau, waeth pa mor brofiadol yw’r darllenydd.) Ein nod yw gofalu bod dau arbenigwr yn gwirio’r holl famogramau.
O bob 500 o fenywod sy’n cael eu sgrinio, bydd bywyd un fenyw’n cael ei achub.
15 Rhai cwestiynau eraill
Dydw i ddim wedi derbyn gwahoddiadau blaenorol. Allaf i ddod?
Gallwch. Mae croeso i chi ddod er nad ydych chi wedi bod o’r blaen.
Rydw i wedi cael mamogramau yn rhywle arall. Allaf i ddod?
Gallwch, cyn belled â bod y mamogram o leiaf chwe mis yn ôl. Cysylltwch â ni os oedd y mamogram yn fwy diweddar.
Beth os oes anabledd arnaf i?
Cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, hyd yn oed os ydych chi wedi bod o’r blaen. Efallai na fyddwch chi’n gallu defnyddio'n hunedau sgrinio symudol, ond fe wnawn ni geisio trefnu dewis rhesymol arall.
Mae mewnblaniadau gen i. Allaf i gael fy sgrinio?
Gallwch, ond mae’n fwy anodd eich sgrinio. Hefyd, mae’r mewnblaniad yn drwchus a bydd yn cuddio peth o feinwe’r fron. Efallai y bydd y sgrinio’n llai effeithiol. Cysylltwch â ni rhag ofn y bydd angen i ni newid eich apwyntiad.
Beth os oes angen i mi ddod â rhywun gyda fi?
Does dim llawer o le ar ein hunedau symudol. Cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad i ofyn am fwy o wybodaeth.
Beth os oes angen i mi hawlio costau teithio?
Os ydych chi’n cael Cymhorthdal Incwm, gallwch chi hawlio’ch costau’n ôl. Gofynnwch i ni am ffurflen.
Beth os oes angen dehonglwr arnaf i?
Gallwn ni drefnu help dehonglwr fel arfer. Rhowch wybod i ni o leiaf wythnos cyn eich apwyntiad.
Beth os hoffwn i gael gwybod am lefel yr ymbelydredd?
Ychydig iawn o ymbelydredd y mae mamogramau’n ei ddefnyddio. Mae'r risg i'ch iechyd ohono'n isel iawn. Os ydych chi’n poeni am yr archwiliad neu’n awyddus i ofyn cwestiynau, holwch y radiograffydd.
Beth os oes hanes o ganser yn y teulu?
Dim ond tua 5% o’r achosion o ganser y fron sy’n gysylltiedig â hanes o’r clefyd yn y teulu. Os ydych chi’n poeni bod hanes o ganser y fron yn eich teulu, gofynnwch i’ch meddyg teulu am gyngor.
16 Y ffeithiau
I’ch helpu i benderfynu a fyddwch chi’n dod i gael eich sgrinio neu beidio, rydyn ni wedi rhestru prif fanteision ac anfanteision sgrinio am ganser y fron.
- Mae sgrinio’r fron yn lleihau’r risg o farw o ganser y fron.
- Bydd sgrinio’n methu rhai canserau ar y fron.
- Mae’r rhan fwyaf o ganserau sy’n dod i’r amlwg wrth sgrinio’r fron yn rhai cynnar iawn pan mae cyfle da i driniaeth lwyddo.
- Allwn ni ddim gwella pob achos o ganser y fron sy’n dod i’r amlwg wrth sgrinio.
- Rydyn ni’n galw menywod yn ôl i gael mwy o brofion os ydyn ni’n ansicr beth sydd i’w weld ar eu mamogramau. Os cewch chi’ch galw’n ôl, gall wneud i chi boeni. Ond mae’r profion yn dangos nad oes canser ar lawer o’r menywod hyn.
- Rydyn ni’n dod o hyd i tua 850 o achosion o ganser bob blwyddyn.
- Mae rhai menywod yn teimlo bod mamogramau’n anghyfforddus neu’n boenus, ond dim ond am gyfnod byr fel arfer.
17 Mwy o wybodaeth a chefnogaeth
Os ydych chi’n awyddus i ofyn unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth, gwnewch un o’r pethau sy’n dilyn.
- Cysylltwch â chanolfan sgrinio Bron Brawf Cymru yn eich ardal.
- Holwch eich meddyg.
- Ewch i’r gwefannau sy’n dilyn.
www.screeningservices.org.uk/btw
www.cancerscreening.nhs.uk
www.nhsdirect.nhs.uk
Os oes gennych sylwadau am ein Gwasanaeth, ewch i http://www.screeningservices.org/btw/welsh/survey/
Gallwch chi gael y wybodaeth hon mewn ieithoedd eraill, print mawr neu Braille, neu ar dâp sain.
[BTW25(Ver4)1/09]



