• pwy sy’n cael eu sgrinio?
  • trefnu apwyntiad
  • pan fo angen i chi gael mwy o brofion
  • oes symptomau arnoch chi?
Google custom search Public Health Wales - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth am Sgrinio

Ydych chi am gynnig unrhyw awgrymiadau, sylwadau neu gwynion ynglŷn â Bron Brawf Cymru?

Mae eich awgrymiadau, eich canmoliaeth a'ch cwynion yn ein helpu ni i wella'n gwasanaeth. Rydyn ni'n rhoi sylw llawn i bob un. Mae'r daflen yma'n disgrifio sut mae rhoi gwybod i ni.

Beth ddylwn i wneud?

Yn gyntaf, mae croeso i chi siarad â'n staff, ar y pryd neu drwy ffonio ar ôl eich ymweliad.

Beth os ydw i am wneud cwyn?

Yn aml iawn, fe allan nhw ddelio â’r broblem yn y fan a’r lle neu’ch cyfeirio chi at aelod uwch o staff. Os nad ydych chi am wneud hyn neu os ydych chi’n dal yn anfodlon, ysgrifennwch ataf i: Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Sgrinio, 18 Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, CF11 9LJ

Fyddwn ni ddim yn eich trin chi’n wahanol am eich bod chi wedi gwneud cwyn.

Pwy sy’n cael cwyno?

Gall unrhyw ferch sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau ni wneud cwyn. Os na allwch chi wneud y gwyn eich hunan, gall rhywun arall (e.e. perthynas neu ffrind) gwyno ar eich rhan. Bydd rhaid i ni gael gwybod eu bod nhw’n gweithredu gyda’ch caniatâd chi.

Oes terfyn amser?

Oes. Fel arfer, rydyn ni’n gofyn i chi wneud y gwyn o fewn chwe mis i’r digwyddiad, neu o fewn chwe mis i’r dyddiad y sylweddoloch chi fod achos gennych chi dros gwyno (ond heb i hynny fod dros flwyddyn ar ôl y digwyddiad ei hun).

Sut allaf i wneud cwyn?

Ysgrifennwch ataf i gan ddefnyddio’r cyfeiriad uchod. Nid oes gofyn i’ch llythyr chi fod yn hir nac yn fanwl ond fe ddylai esbonio:

  • am bwy neu beth rydych chi’n cwyno ac enwau staff os ydych chi’n eu gwybod nhw
  • ble a phryd oedd y digwyddiadau
  • beth ydych chi wedi’i wneud yn barod am y sefyllfa, os ydych chi wedi gwneud rhywbeth
  • yr hyn rydych chi’n ei geisio o’r gwyn – er enghraifft, ymddiheuriad, esboniad, newidiadau i’r gwasanaeth.

Rhowch wybod i mi os ydych chi am drefnu cyfarfod.

Oes modd i mi gael help i ysgrifennu fy nghwyn?

Gallwch chi ofyn am gyngor a help gan eich Cyngor Iechyd Cymunedol. Mae’r manylion yn eich llyfr ffôn lleol. Gallwn ni drefnu cyfieithydd os oes angen un arnoch chi.

Beth fydd yn digwydd nesa?

Ar ôl i’ch cwyn ddod i law, byddwn ni’n ei chydnabod o fewn dau ddiwrnod.

Fe fyddwn ni’n ymchwilio’r mater. Mae’n bosib y bydd gofyn i ni edrych ar eich cofnodion sgrinio – fe gewch chi ofyn am gael eu gweld nhw hefyd.

Rydyn ni’n ymdrin â phob mater yn gyfrinachol

Byddwn ni’n cadw’ch manylion personol chi’n gyfrinachol. Dim ond â phobl sydd ag angen y wybodaeth y byddwn ni’n ei rhannu.

[B701.v2.10/07]