Newyddion a Digwyddiadau
Ebrill 09 2010
Mae Bron Brawf Cymru wedi sgrinio’n llwyddiannus y defnyddwyr anabl cyntaf o’r uned deithiol newydd sy’n sgrinio bronnau pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn. Uned newydd Bron Brawf Cymru yw’r gyntaf o’i math yn y Deyrnas Unedig. Cafodd ei lansio gan y mudiad ym mis Ionawr 2010.
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, cafodd y defnyddwyr anabl cyntaf eu sgrinio yn yr uned a oedd ym maes parcio Canolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr. O’r holl fenywod a gafodd eu gwahodd, daeth 80% i gael eu sgrinio, sy’n ffigwr uwch nag y mae staff clinigau Bron Brawf Cymru’n ei ddisgwyl.
Heblaw am un fenyw, roedd yn bosib sgrinio’r holl fenywod anabl a ddaeth, ac roedd yr holl ddefnyddwyr yn falch iawn fod y gwasanaeth ar gael iddyn nhw.
Dywedodd Chris Tinkler, Pennaeth Radiograffeg Bron Brawf Cymru: “Roedd yn braf gweld y menywod yma’n gallu cael eu sgrinio mewn uned yn eu hardal, a gweld bod yr uned yn bodloni eu hanghenion ymarferol.
“Fe wnaethon ni ddysgu rhai gwersi gwerthfawr ar ôl rhedeg y clinig cyntaf yma, yn cynnwys gofalu bod ochrau’r cadeiriau olwyn yn dod i ffwrdd fel eu bod yn ffitio yn yr uned. Byddwn ni’n defnyddio’r profiad yma fel sail i wella’r gwasanaeth, ond rydyn ni’n falch iawn bod y sgrinio wedi bod mor llwyddiannus.”
Ionawr 04 2010
Uned sgrinio’n cynnig mynediad gwell i fenywod anabl yng Nghymru
Heddiw mae Bron Brawf Cymru’n lansio uned sgrinio deithiol newydd sy’n caniatáu mynediad i bobl mewn cadeiriau olwyn. [darllenwch fwy...]
Tachwedd 2009
'Sgrinio Am Oes' Hydref/Gaeaf 2009 cyhoeddwyd
Hydref 2009
Iechyd Cyhoeddus Cymru ar waith.
O ddydd Iau 1 Hydref, bydd cyfrifoldeb ar gyfer swyddogaethau a gwasanaethau Bron Brawf Cymru yn cael eu hysgwyddo gan yr Ymddiriedolaeth GIG newydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ni fydd gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid (CARIS), yr NPHS, Gwasanaethau Sgrinio, Canolfan Iechyd Cymru a’r Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) yn newid. Ni fydd enwau a manylion cyswllt y gwasanaethau hyn yn newid chwaith.
Gellir gweld mwy o fanylion am y newid a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
nww.publichealthwales.wales.nhs.uk (intranet)
www.publichealthwales.org (internet)
Tachwedd 2007
'Gwybodaeth Am Eich Sesiwn Sgrinio'r Fron / Gwybodaeth Am Eich Prawf Ceg Y Groth' DVD released.
Mae'r ddwy raglen, sy'n para 10 munud yr un, yn egluro'r ffeithiau ynghylch profion sgrinio'r fron a sgrinio cegy groth, yng ngeiriau menywod a staff y GIG. To order via email please use the Word file version below.
Ffurflen archebu DVD (Word ffeil)
Ffurflen archebu DVD (PDF ffeil)



