• pwy sy’n cael eu sgrinio?
  • trefnu apwyntiad
  • pan fo angen i chi gael mwy o brofion
  • oes symptomau arnoch chi?
Google custom search Public Health Wales - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Latest News

Mae Bron Brawf Cymru wedi sgrinio’n llwyddiannus y defnyddwyr anabl cyntaf o’r uned deithiol newydd sy’n sgrinio bronnau pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn [mwy...]

Watch video of disabled access screening mobile
gwylio fideo

Am Bron Brawf Cymru

Fe gafodd Bron Brawf Cymru (BTW) ei sefydlu yn 1988 er mwyn cyflwyno rhaglen sgrinio’r fron y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Fe gychwynnodd y gwaith sgrinio ym mis Chwefror 1989. Mae Bron Brawf Cymru wedi’i rannu’n dair ardal ddaearyddol gyda chanolfannau yng Nghaerdydd, Abertawe a Llandudno (ac is-ganolfan newydd yn Wrecsam). Mae deg uned symudol yn gweithio drwy Gymru i gefnogi’r canolfannau yma, gan ymweld â mwy na 100 o safleoedd ym mhob rownd sgrinio tair blynedd.