• pwy sy’n cael eu sgrinio?
  • ddylech chi gael eich sgrinio?
  • trefnu apwyntiad
  • pan fo angen i chi gael mwy o brofion
  • oes symptomau arnoch chi?
Google custom search

Cwestiynau Cyffredin

 

Rydw i dros 70 oed. Ddylwn i fynd ymlaen i gael fy sgrinio?

Cynyddu mae’r risg o gael canser y fron wrth i rywun fynd yn hŷn. Mae’n dal yn bwysig i fenywod dros 70 oed gael sgrinio’u bronnau. Os ydych chi dros 70 oed, fyddwch chi ddim yn cael eich gwahodd yn awtomatig i gael sgrinio’ch bronnau. Rydyn ni’n eich annog i ofyn i ni am apwyntiad bob tair blynedd.

I ofyn am apwyntiad neu i gael gwybod pryd y bydd sgrinio’r fron yn dod i’ch ardal chi nesaf, cysylltwch â chanolfan sgrinio’r fron eich ardal.

 

Pam nad ydyn ni’n gwahodd gwragedd dros 70 oed?

Mae hawl gan bob gwraig 50 oed a hŷn i gael ei sgrinio bob tair blynedd. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gwahodd gwragedd rhwng 50 a 70 oed yn awtomatig. Mae gwragedd dros 70 oed yn cael eu sgrinio os ydyn nhw’n gofyn. Mae’r siawns o gael canser y fron yn dal i godi wrth i ni fynd yn hŷn. Rydyn ni, a nifer o fudiadau ac elusennau eraill, yn ceisio tynnu sylw gwragedd hŷn at hyn ac yn eu hannog i ofyn am gael eu sgrinio.

Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng trefnu prawf (mamogram neu sgan uwchsain er enghraifft) ar gyfer unigolyn, a rhoi rhaglen sgrinio ar waith. Er bod modd cyfiawnhau trefnu i rywun gael prawf “un tro’n unig” ar sail arwyddion a symptomau clinigol, mater gwahanol iawn yw cynnig sgan rheolaidd i gyfran fawr o’r boblogaeth. Fel rhaglen sgrinio genedlaethol, rydyn ni’n dilyn cyngor Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, Pwyllgor Ymgynghorol yr Adran Iechyd ar sgrinio am ganser y fron a Phwyllgor Sgrinio Cymru. Mae’r cyngor wedi cael ei seilio ar dystiolaeth a threialon a gafodd eu gwneud yn y wlad hon ac mewn gwledydd eraill.

Mae’r meini prawf ar gyfer trefnu rhaglen sgrinio ar gyfer rhan arbennig o boblogaeth yn cael eu seilio ar dystiolaeth – nid dim ond ar fanteision sgrinio ond hefyd ar y niweidiau. Mae’r niweidiau’n cynnwys creu pryder i bobl a gorfod cael profion a llawdriniaethau ar ymddangosiad sy’n diweddu fel rhywbeth normal neu rywbeth sy’n tyfu’n araf. Mae afiechydon eraill ar rai gwragedd sy’n golygu na fyddan nhw’n elwa ar gael diagnosis cynt o ganser y fron. Ar hyn o bryd, y farn yw y dylai gwragedd dros 70 oed benderfynu eu hunain a ydyn nhw am ofyn am apwyntiad neu beidio.

 

Beth fydd fy oedran pan gaf i fy ngwahoddiad cyntaf?

Mae hawl gan fenyw i gael ei sgrinio am y tro cyntaf ym mlwyddyn ei phen-blwydd yn 50. Yn y DU, rydyn ni’n gwahodd practis pob meddyg teulu yn ei dro, bob tair blynedd. Felly, caiff pob menyw ei gwahoddiad cyntaf cyn ei phen-blwydd yn 53, ond nid o anghenraid ym mlwyddyn ei phen-blwydd yn 50. Bydd ychydig o fenywod yn 49 oed.

Nid yw’r menywod hŷn sy’n cael eu gwahodd am y tro cyntaf dan anfantais. Gallan nhw gael yr un nifer o wahoddiadau awtomatig yn ystod yr 20 mlynedd (ac, wrth gwrs, mae croeso iddyn nhw barhau i ofyn am wahoddiad wedi hynny).

Mae’r wefan yma’n rhestru’r dyddiadau’r ydyn ni’n bwriadu sgrinio ym mhob ardal. Gallai hyn eich helpu chi i wybod pryd i ddisgwyl cael eich galw.

 

A yw mamogram yn boenus?

Mae rhai merched yn teimlo bod y drefn yn anghyfforddus ac ychydig yn teimlo'i bod yn boenus. Mae gofyn i ni bwyso i gael mamogramau o ansawdd wrth ddefnyddio dos isel o ymbelydredd. Dim ond am ychydig eiliadau fydd y pwyso'n para. Os byddwch chi'n teimlo poen, dim ond yn ystod y prawf fydd y boen yn para fel arfer. I nifer bach iawn o ferched, fe all y boen bara am beth amser.

 

Pam y gallwn i gael fy ngalw’n ôl?

Weithiau, bydd angen i ni alw merched yn ôl am fod nam technegol wedi digwydd. Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi os dyma'r rheswm dros eich galw.

Byddwn ni'n galw'n ôl tua un mewn 20 o'r merched rydyn ni'n eu sgrinio am fod ymddangosiad y pelydr-x yn awgrymu bod gofyn gwneud mwy o brofion. Fe allai'r profion yma gynnwys mwy o famogramau, archwiliad clinigol, sgan uwchsain ac, o bosib, biopsi nodwydd. Fydd dim problemau ar y rhan fwyaf o'r merched yma a byddwn ni'n eu galw nhw eto mewn tair blynedd fel rhan o'r broses sgrinio arferol.

 

Beth os bydd angen triniaeth arna i?

Os cewch chi ddiagnosis o ganser y fron, dod o hyd iddo'n gynnar sy'n cynnig y cyfle gorau i'w drin yn llwyddiannus. Byddwn ni'n trafod yr holl opsiynau'n llawn gyda chi a chytuno ar drefniadau'ch triniaeth.

 

Sut gallaf i gael gwybod mwy am brofiadau pobl o ganser y fron?

Database of Individual Patient Experiences

 

Beth fydd yn digwydd i fy mhelydrau-x ar ôl iddyn nhw gael eu gwirio?

Byddwn ni'n cadw'ch holl famogramau chi fel ein bod ni'n gallu:

  • cymharu'ch mamogramau diweddaraf â rhai a gawsoch chi o'r blaen;
  • adolygu'r holl gofnodion sgrinio, yn cynnwys mamogramau;
  • hyfforddi a gwella arbenigedd ein staff arbenigol ni;
  • mesur ansawdd y gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig.

Fe allai fod angen i staff sy'n gweithio mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd weld eich cofnodion i helpu gyda'ch gofal meddygol. Pe bai adolygiad yn dangos y dylech chi fod wedi cael gofal gwahanol, byddwn ni'n cysylltu â chi. Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am eich achos os ydych chi eisiau.

For more information about the records we keep, please see our leaflet 'Sut rydyn ni'n defnyddio gwybodaeth amdanoch chi'.

 

Pa mor gywir yw sgrinio’r fron?

Mamogramau yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ganfod canser y fron yn gynnar. Fel profion sgrinio eraill, dydyn nhw ddim yn berffaith. Er enghraifft:

  • mae rhai canserau'n anodd iawn eu gweld;
  • mae'n amhosib gweld rhai canserau, er eu bod nhw yno;
  • fe allai'r un sy'n darllen y pelydr-x fethu'r canser. Fe fydd hyn yn digwydd weithiau, waeth pa mor brofiadol yw'r darllenydd. Ein nod yw gofalu bod dau arbenigwr yn gwirio'r holl famogramau.

 

Pa dystiolaeth sy’n sylfaen i sgrinio’r fron?

 

Rhai cwestiynau eraill.....

.....Dydw i ddim wedi derbyn gwahoddiadau blaenorol. Alla i ddod?

Gallwch, byddwn ni'n dymuno i chi ddod er nad ydych chi wedi bod o'r blaen.

 

.....Rydw i wedi cael mamogramau yn rhywle arall. Alla i ddod?

Gallwch, cyn belled â bod y mamogram blaenorol o leiaf 6 mis yn ôl. Cysylltwch â ni os oedd y mamogram yn fwy diweddar.

 

.....Beth os oes anabledd arna i?

Cysylltwch â ni , os gwelwch yn dda, hyd yn oed os buoch chi o'r blaen. Mae'n bosib na fyddwch chi'n gallu mynd yn rhwydd i mewn i'r unedau symudol, ond fe geisiwn ni drefnu dewis rhesymol arall. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar dudalennau 12-16 o Adroddiad 2005 ein Cyfarwyddwr.

 

.....Mae mewnblaniadau (implants) gen i? Alla i gael fy sgrinio?

Gallwch, ond mae'n fwy anodd i'r radiograffydd eich sgrinio chi. Cysylltwch â ni rhag ofn y bydd angen newid eich apwyntiad.

 

.....Beth os bydd angen i mi ddod â rhywun gyda fi?

Does dim llawer o le yn yr unedau symudol. Cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, i ofyn am fwy o wybodaeth cyn eich apwyntiad.

 

.....Beth os bydd angen i mi hawlio costau teithio?

Os ydych chi'n cael Cymhorthdal Incwm, gallwch chi hawlio'ch costau'n ôl. Gofynnwch i ni am fanylion.

 

.....Beth os bydd angen cyfieithydd arna i?

Gallwn ni drefnu help cyfieithydd. Rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda, o leiaf wythnos cyn eich apwyntiad.

 

.....Beth os hoffwn i gael gwybod am y dos o ymbelydredd?

Mae mamograffi'n golygu defnyddio dos bach iawn o ymbelydredd ac mae'r perygl i'ch iechyd chi'n isel iawn. Os ydych chi'n poeni am yr archwiliad, neu os hoffech chi ofyn cwestiynau, holwch y radiograffydd.

 

Mwy o wybodaeth a chefnogaeth

Os oes cwestiynau gennych chi am y gwasanaeth:

Fe allwch chi gael y wybodaeth yma mewn ieithoedd eraill, mewn print mawr, ar dâp sain neu mewn Braille.

 

^nôl i'r brig