Sgrinio am gryman-gell a thalasaemia mewn beichiogrwydd
Mae gwybodaeth yn y daflen yma am brofion y gallwch chi eu cael yn ystod beichiogrwydd i gael gwybod ydych chi’n cludo cryman-gell (sickle cell) neu thalasaemia. Os ydych chi’n cludo un o’r clefydau, bydd cyfle i dad eich babi gael profion hefyd. Mae nifer o wahanol fathau o gludwyr. Os ydych chi a tad eich babi’n gludwyr o ‘fathau pwysig’, gallai’ch babi etifeddu anhwylder cryman-gell neu thalasaemia mwyaf.
Gallwch chi ddewis cael y profion yma neu beidio.
Os ydych chi neu dad eich babi eisoes wedi cael eich sgrinio am gryman-gell neu thalasaemia, neu os ydych chi’n cario cerdyn i ddangos eich canlyniad, dywedwch wrth eich bydwraig a’ch meddyg. Efallai y byddwch chi’n cael cyfle i gael y prawf sgrinio eto.
Beth yw anhwylderau cryman-gell a thalasaemia mwyaf?
Y prawf
I bwy mae’r prawf yn cael ei gynnig?
Beth yw manteision cael eich sgrinio mewn beichiogrwydd am gryman-gell a thalasaemia?
Beth yw anfanteision cael eich sgrinio mewn beichiogrwydd am gryman-gell a thalasaemia?
Y canlyniadau
Beth os yw tad fy mabi’n gludydd hefyd?
Beth yw anhwylderau cryman-gell a thalasaemia mwyaf?
Anhwylderau difrifol ar y gwaed yw cryman-gell a thalasaemia mwyaf. Anhwylderau sy’n cael eu hetifeddu ydyn nhw. Maen nhw’n effeithio ar yr haemoglobin yng nghelloedd coch y gwaed. Mae haemoglobin yn bwysig am ei fod yn cario ocsigen o gwmpas y corff. Mae angen gofal arbenigol ar bobl sydd â’r cyflyrau yma am weddill eu hoes. Mae anhwylderau eraill ar yr haemoglobin sy’n llai cyffredin, ac mae llawer o’r rhain yn llai difrifol.
Anhwylderau cryman-gell
Gall pobl ag anhwylder cryman-gell fod:
- â niwed i’r meinweoedd a’r organau, a symptomau sy’n amrywio;
- yn cael pyliau o boen ddifrifol pan mae angen iddyn nhw aros mewn ysbyty;
- ac yn fwy tebygol o gael heintiau difrifol.
Beta thalasaemia mwyaf
Mae pobl â beta thalasaemia mwyaf yn cael:
- anemia difrifol, ac mae angen iddyn nhw gael trallwysiadau gwaed (blood transfusions) bob pedair i chwe wythnos, a thriniaethau eraill.
Sut mae’r anhwylderau yma’n cael eu hetifeddu?
Anhwylderau genetig yw cryman-gell a thalasaemia. Maen nhw’n cael eu trosglwyddo o fewn teuluoedd.
Os yw genyn cryman-gell neu thalasaemia gan y ddau riant, mae siawns uchel (un siawns o bob pedair, neu 25%) y bydd anhwylder cryman-gell neu thalasaemia mwyaf ar eu babi.
Os dim ond un rhiant (naill ai’r fam neu’r tad) sydd â’r genyn cryman-gell neu thalasaemia, nid yw’n debygol iawn y bydd anhwylder cryman-gell neu thalasaemia mwyaf ar eu babi. Ond gallai’r babi fod yn gludydd. Fel y fam neu’r tad, bydd genyn cryman-gell neu thalasaemia mwyaf gan y babi, ond nid yw’r genyn ynddo’i hun yn achosi problemau fel arfer. Efallai y bydd menywod sy’n cludo’r genyn yn cael rhai problemau yn ystod beichiogrwydd. Er enghraifft, maen nhw’n fwy tueddol o fod yn anaemig.
Pwy sy’n gallu bod yn gludydd?
Gall unrhyw un fod yn cludo cryman-gell neu thalasaemia.
Ond mae’r siawns o gludo cryman-gell neu thalasaemia’n uwch ar gyfer rhai grwpiau o bobl. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n fwy tebygol o fod yn gludydd os yw’ch teulu, does dim gwahaniaeth sawl cenedlaethol yn ôl, wedi dod o un o wledydd Môr y Canoldir (er enghraifft, Cyprus, yr Eidal, Portiwgal neu Sbaen), Affrica, y Caribî, y Dwyrain Canol, India, Pacistan, De America neu De a De-ddwyrain Asia.
Mae’n anghyffredin gweld pobl sy’n dod o’r Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon, neu y mae eu teuluoedd yn dod o’r gwledydd yma, yn cludo cryman-gell neu thalasaemia.
Y prawf
Prawf gwaed yw hwn. Mae’n bosib ei wneud yn gynnar mewn beichiogrwydd fel arfer, gyda’r profion gwaed eraill.
Dim ond i fenywod sydd â siawns uwch o fod yn cludo cryman-gell neu thalasaemia y bydd y prawf yn cael ei gynnig. Trowch at ‘I bwy mae’r prawf yn cael ei gynnig’ i weld ydych chi’n perthyn i’r grŵp yma.
Fel rhan o’ch gofal cyn geni, byddwch chi’n cael cyfle i gael prawf cyfrif gwaed llawn (sy’n un o’r profion gwaed arferol). Ei bwrpas yw mesur lefel eich haemoglobin i weld ydych chi’n amaemig. Gall y prawf cyfrif gwaed llawn ddod o hyd i rai mathau o thalasaemia hefyd.
Bydd y fydwraig yn gofyn ydych chi am gynnwys sgrinio am thalasaemia fel rhan o’r prawf cyfrif gwaed llawn. Os yw’ch prawf cyfrif gwaed yn awgrymu eich bod chi’n cludo thalasaemia, gallai’r labordy sgrinio’ch gwaed am anhwylderau cryman-gell a thalasaemia hefyd.
I bwy mae’r prawf yn cael ei gynnig?
Dylech chi gael cyfle i gael y prawf:
- os oes hanes o gryman-gell neu thalasaemia yn eich teulu chi neu yn nheulu’ch partner;
- os ydych chi neu’ch partner neu unrhyw aelod o’ch teulu chi neu deulu’ch partner wedi dod o unrhyw ran o’r byd heblaw’r Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (does dim gwahaniaeth sawl cenhedlaeth yn ôl);
- os nad ydych chi neu’ch partner yn gwybod hanes eich teulu – er enghraifft, cawsoch chi neu’ch partner eich mabwysiadu; os
- neu os oes anaemia arnoch chi, heb eglurhad.
Beth yw manteision cael eich sgrinio mewn beichiogrwydd am gryman-gell a thalasaemia?
Os ydych chi’n cludo cryman-gell neu thalasaemia, mae’n bwysig i’r bobl sy’n gofalu amdanoch wybod am hynny er mwyn rhoi’r gofal iawn i chi yn ystod eich beichiogrwydd.
Os yw menyw’n gwybod bod siawns uchel y gallai ei babi etifeddu anhwylder cryman-gell neu thalasaemia mwyaf, gallai gael prawf diagnostig i weld a yw’r babi wedi’i effeithio. Mae dau fath o brawf diagnostig, sef CVS (samplu filysau corionig) neu amniocentesis. Os yw’r babi wedi’i effeithio, gall y fenyw benderfynu a fydd y beichiogrwydd yn mynd yn ei flaen neu a fydd yn ei derfynu.
Beth yw anfanteision cael eich sgrinio mewn beichiogrwydd am gryman-gell a thalasaemia?
Efallai y bydd cael y prawf yn gwneud i chi boeni os ydych chi’n dod i wybod eich bod chi’n cludo cryman-gell neu thalasaemia. Byddai rhai menywod yn cael cyfle i gael prawf diagnostig i weld a oes unrhyw effaith ar y babi. Mae hwn yn gallu bod yn benderfyniad anodd am fod y profion diagnostig yn gallu achosi erthyliad naturiol (miscarriage). Efallai y bydd rhai menywod yn difaru eu bod nhw wedi cael y prawf sgrinio am fod gwneud y penderfyniad yma’n anodd.
Ddylwn i gael y prawf gwaed am gryman-gell a thalasaemia?
Dim ond chi sy’n gallu penderfynu ydych chi’n awyddus i gael y prawf neu beidio. Mae rhai menywod yn awyddus i gael gwybod a oes cryman-gell neu thalasaemia ar eu babi, ond mae’n well gan fenywod eraill beidio â chael gwybod. Mae cael y prawf yn gallu achosi pryder am fod y canlyniad yn golygu y byddwch chi’n cael cyfle i gael profion ychwanegol.
Ble fydd y prawf gwaed yn cael ei wneud?
Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych chi ble y gallwch chi gael y prawf.
Y canlyniadau
Fydd fy nghanlyniadau’n gyfrinachol?
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cadw canlyniadau pob prawf yn gyfrinachol. Mae polisïau ysbytai ynglŷn â faint o bobl fydd yn gweld canlyniadau’ch profion yn amrywio. Gall eich bydwraig esbonio’r drefn sydd ar waith yn eich ardal.
Sut byddaf i’n cael canlyniad fy mhrawf sgrinio?
Bydd eich bydwraig neu’ch meddyg, neu un o gynghorwyr y ganolfan cryman-gell a thalasaemia yn eich ardal yn rhoi canlyniad eich prawf i chi.
Beth fydd y canlyniadau’n ei ddweud wrthyf i?
Os yw’r canlyniad yn dangos nad ydych chi’n gludydd, mae’n annhebygol iawn y bydd anhwylder cryman-gell neu thalasaemia mwyaf ar eich plentyn. Er bod y prawf yn un cywir iawn, mae nifer bach o ganlyniadau’n gallu bod yn aneglur. Os bydd hyn yn digwydd, byddwch chi’n cael cyfle i gael ail brawf.
Os yw’r prawf yn dangos eich bod chi’n cludo’r genyn neu fod posibilrwydd eich bod chi’n ei gludo, fe gewch chi gyfle i siarad gyda nyrs neu feddyg arbenigol. Byddan nhw’n rhoi mwy o wybodaeth i chi. Byddan nhw’n awgrymu y dylech chi ofyn i dad y babi gael prawf gwaed i weld a yw’n cludo’r genyn. Os yw canlyniad prawf gwaed y tad yn dangos nad yw’n cludo’r genyn, mae’n annhebygol iawn y bydd anhwylder cryman-gell neu thalasaemia mwyaf ar eich plentyn.
Beth os yw tad fy mabi’n gludydd hefyd?
Os yw’r prawf yn dangos bod tad eich babi’n gludydd, efallai fod un siawns o bob pedair (neu 25%) y gallai’ch babi fod ag anhwylder cryman-gell neu thalasaemia mwyaf. Gallwch chi benderfynu wedyn a fyddwch chi’n cael mwy o brofion i weld a yw’ch babi wedi’i effeithio. Profion diagnostig yw’r enw ar y profion yma. Os byddwch chi’n dewis peidio â chael mwy o brofion, gallai’ch babi gael prawf ar adeg y geni am anhwylderau cryman-gell a thalasaemia mwyaf. Os yw’r babi wedi’i effeithio, bydd y driniaeth yn gallu dechrau’n gynnar.
Beth yw’r profion diagnostig?
Samplu filysau corionig (CVS) ac amniocentesis
Profion diagnostig yw CVS ac amniocentesis. Maen nhw’n ffyrdd cywir iawn o wneud profion i chwilio am anhwylderau cryman-gell a thalasaemia mwyaf. Os byddwch chi’n penderfynu cael prawf diagnostig, bydd gofyn i chi a thad y babi roi sampl arall o waed i helpu’r labordy i roi diagnosis cywir.
Beth yw CVS?
Gweithred yw CVS sy’n golygu bod meddyg yn tynnu ychydig iawn o feinwe o’ch brych (placenta) yn ystod y beichiogrwydd. Mae’r celloedd yn y feinwe yma’n cael eu harchwilio wedyn mewn labordy i edrych ar gromosomau’ch babi. Gallwch chi fel arfer gael prawf CVS rhwng wythnos 11 ac wythnos 14 o’ch beichiogrwydd. Ond, dan amgylchiadau arbennig, mae’n bosib i chi gael CVS ar ôl wythnos 14.
Os byddwch chi’n cael CVS, mae perygl o 2% y gallwch chi gael erthyliad naturiol (hynny yw, gallai tua un fenyw o bob 50 sy’n cael y prawf golli eu babi).
Beth yw amniocentesis?
Gweithred yw amniocentesis sy’n golygu tynnu 15-20 mililitr (llond tua thair neu bedair llwy de) o’r hylif amniotig sydd o gwmpas y babi yn eich croth. Mae’n bosib gwneud profion mewn labordy ar y celloedd o’ch babi sydd yn yr hylif yma.
Mae’n bosib gwneud amniocentesis ar ôl wythnos 15 o’ch beichiogrwydd.
Mae peth risg gydag amniocentesis hefyd. Mae’n achosi erthyliad naturiol mewn tua un o bob 100 beichiogrwydd (1%).
Beth yw’r canlyniadau sy’n bosib i brofion diagnostig?
Os byddwch chi’n cael CVS neu amniocentesis, gallai’r canlyniadau ddangos:
- nad oes y math yma o broblem ar eich babi;
- neu fod anhwylder cryman-gell neu thalasaemia mwyaf ar eich babi. Gallwch chi benderfynu wedyn a fyddwch chi’n paratoi ar gyfer geni babi â chryman-gell neu thalasaemia mwyaf, neu a fyddwch chi’n terfynu’ch beichiogrwydd.
Mae CVS ac amniocentesis yn gallu datgelu amhwylderau eraill ar y cromosomau. Mae mwy o wybodaeth yn y daflen ar CVS ac amniocentesis.
Mwy o wybodaeth
Gallwch chi gael mwy o wybodaeth am gryman-gell a thalasaemia gan eich bydwraig neu’ch meddyg yn yr ysbyty (eich obstetregydd).
Mudiadau eraill
Cymdeithas y clefydon cryman-gell (Sickle Cell Society)
Gwefan: www.sicklecellsociety.org
Cymdeithas thalasaemia’r Deyrnas Unedig (UK Thalassaemia Society)
Gwefan: www.ukts.org |