Profion Sgrinio
cliciwch y cysylltau ar y chwith i gael mwy o wybodaeth
Beth yw profion sgrinio?
Profion sgrinio – fe allai'r rhain ddod o hyd i rai o'r cyflyrau sy'n effeithio arnoch chi, neu ar eich babi. Dydyn nhw ddim yn dangos yn bendant eich bod chi neu'ch babi wedi cael eich effeithio. Maen nhw'n dangos beth yw'r siawns eich bod wedi cael eich effeithio.
Os yw canlyniad prawf sgrinio'n dangos siawns uwch o gael problem benodol, yna fe fyddwn ni'n cynnig prawf diagnostig i chi. Mae profion diagnostig yn rhoi canlyniadau mwy pendant, ond mae yna risg o gael erthyliad naturiol (miscarriage) gyda rhai. Am y rheswm yma, fe fyddwn ni ond yn cynnig y math yma o brofion i ferched sydd â siawns uchel o fod â phroblem.
Fel yn achos profion meddygol eraill, dydi canlyniadau profion sgrinio a phrofion diagnostig ddim yn 100% gywir.
10 - 14 wythnos
Sgan uwchsain i weld:
- faint o wythnosau o'r cyfnod cario sydd wedi bod
- a yw calon y babi'n curo
- a oes mwy nag un babi
15 - 18 wythnos
Profion syndrom Down
Fe allwch chi gael prawf gwaed i weld a oes siawns y gallwch chi gael babi sydd â syndrom Down. Mae'n bosib gwneud y prawf ar ôl 15 wythnos o'r cyfnod cario.
18 - 20 wythnos
Fe allwch chi gael sgan uwchsain i weld a ydi'ch babi chi'n datblygu'n iawn.
|