Sgrinio Cyn Geni Cymru - Antenatal Screening Wales  
 

Sgrinio am syndrom Down mewn beichiogrwydd

 

Mae’r daflen yma’n esbonio’r profion y mae’n bosib eu gwneud yn ystod beichiogrwydd i gael gwybod a oes syndrom Down ar eich babi. Gall menywod sy’n cael gwybod bod gan eu babi siawns uwch o syndrom Down ddewis cael prawf diagnostig. Amniocentesis yw’r enw ar y prawf yma. Gallwch chi ddewis cael y prawf yma neu beidio.

 

Beth yw syndrom Down?

Beth yw fy siawns o gael babi â syndrom Down?

Beth fydd canlyniad y prawf sgrinio’n ei ddweud wrthyf i?

Ddylwn i gael y prawf am syndrom Down?

Pa brawf sgrinio fydd ar gael?

Y canlyniadau

Beth os yw’r canlyniad yn rhoi siawns uwch i mi?

Prawf diagnostig am syndrom Down

Beth yw syndrom Down?

Cyflwr genetig sy’n cael ei achosi gan gromosom ychwanegol yw syndrom Down. Mae 47 cromosom gan rywun sydd â syndrom Down, yn lle’r 46 arferol.

Mae syndrom Down yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae peth anabledd dysgu gan bob un. Mae anabledd dysgu rhai pobl yn ysgafn, ond mae’n fwy difrifol ar bobl eraill. Fel oedolion, mae’r rhan fwyaf yn gallu byw bron yn annibynnol, ond bydd angen mwy o gefnogaeth ar rai. Mae cyflyrau meddygol fel problemau’r galon ar rai hefyd. Mae’n bosib trin llawer o’r cyflyrau yma.

Beth yw fy siawns o gael babi â syndrom Down?

Mae syndrom Down yn digwydd mewn tua un o bob 500 beichiogrwydd. Nid yw fel arfer yn rhedeg mewn teuluoedd. Mae’n bosib i unrhyw fenyw gael babi â syndrom Down. Mae’r posibilrwydd yma’n cynyddu wrth i chi fynd yn hŷn ond mae menywod iau’n cael babanod â syndrom Down. Oherwydd hyn, mae’r prawf ar gael i fenywod o bob oedran.

Bydd canlyniad y prawf sgrinio’n dweud wrthych chi beth yw eich siawns o gael babi â syndrom Down yn y beichiogrwydd hwn.

Beth fydd canlyniad y prawf sgrinio’n ei ddweud wrthyf i?

Mae nifer o brofion sgrinio ar gael ar gyfer syndrom Down. Nid oes yr un o’r profion yma’n dangos yn bendant fod syndrom Down ar fabi neu beidio. Maen nhw’n dangos pa siawns sydd gennych chi o gael babi â syndrom Down.

Nid yw’r prawf sgrinio’n dod o hyd i bob babi y mae syndrom Down yn effeithio arno. Ar gyfartaledd, o bob 10 babi â syndrom Down, bydd y broses sgrinio ond yn canfod saith. Mae hynny’n golygu y bydd tri o bob 10 babi â’r syndrom yn cael eu methu.

Oes unrhyw beryglon i’r prawf sgrinio am syndrom Down?

Prawf gwaed syml yw’r prawf sgrinio. Mae ganddo’r un peryglon yn union ag unrhyw brawf gwaed arall.

Beth yw manteision cael prawf sgrinio am syndrom Down?

Os oes syndrom Down ar eich babi, gallwch chi benderfynu a fydd y beichiogrwydd yn mynd yn ei flaen neu beidio.

Beth yw anfanteision cael prawf sgrinio am syndrom Down?

Mae cael y prawf yn gallu gwneud i chi boeni, yn arbennig os yw’r canlyniad yn dangos bod siawns uwch gennych chi o gael babi â syndrom Down. Siawns uwch yw ein ffordd ni o ddisgrifio’ch canlyniad os yw rhwng un o bob dau ac un o bob 150. Os yw’r canlyniad rhwng un o bob dau ac un o bob 150, byddwch chi’n cael cyfle i gael prawf i weld yn bendant a oes syndrom Down ar eich babi. Mae hwn yn gallu bod yn benderfyniad anodd i lawer o fenywod am fod y prawf diagnostig yn gallu achosi erthyliad naturiol (miscarriage). Efallai y bydd rhai menywod yn difaru eu bod nhw wedi cael y prawf sgrinio am fod gwneud y penderfyniad yma’n anodd.

Ddylwn i gael y prawf am syndrom Down?

Dim ond chi sy’n gallu penderfynu ydych chi’n awyddus i gael y prawf neu beidio. Mae rhai menywod yn awyddus i gael gwybod a oes syndrom Down ar eu babi, ond byddai’n well gan fenywod eraill beidio â chael gwybod. Mae pob ysbyty yng Nghymru’n cynnig prawf sgrinio am syndrom Down i bob menyw, ond chi sydd i benderfynu a fyddwch chi’n cael y prawf neu beidio. Mae croeso i chi drafod eich penderfyniad gyda’ch bydwraig. Waeth beth yw’ch penderfyniad, bydd y fydwraig yn eich cefnogi.

Pa brawf sgrinio fydd ar gael?

Bydd angen i chi gael sgan uwchsain cyn cael prawf gwaed. Mae’n bosib gwneud y prawf gwaed rhwng wythnos 15 ac wythnos 18 o’r beichiogrwydd.

Nid yw’n bosib i chi gael y prawf sydd ar gael yng Nghymru os ydych chi’n disgwyl efeilliaid neu fwy o fabanod.

Ni fyddwch chi fel arfer yn cael cyfle i gael y prawf sgrinio ar ôl wythnos 18 o’r beichiogrwydd. Os ydi wythnos 18 o’ch beichiogrwydd wedi mynd heibio ac rydych chi’n awyddus i gael prawf sgrinio am syndrom Down, bydd angen i chi drafod y sefyllfa gyda’ch bydwraig neu’ch meddyg yn yr ysbyty (eich obstetregydd).

Ble fydd y prawf yn cael ei wneud?

Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych chi ble y gallwch chi gael y prawf.

Y canlyniadau

Byddwch chi fel arfer yn cael canlyniad eich prawf gwaed o fewn pythefnos.

Fydd fy nghanlyniadau’n gyfrinachol?

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cadw canlyniadau pob prawf yn gyfrinachol. Mae polisïau ysbytai ynglŷn â faint o bobl fydd yn gweld canlyniadau’ch profion yn amrywio. Gall eich bydwraig esbonio’r drefn sydd ar waith yn eich ardal.

Sut byddaf i’n cael canlyniad fy mhrawf sgrinio?

Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych chi sut a phryd y byddwch chi’n cael canlyniad y prawf. Bydd y canlyniadau’n dweud a oes gennych chi ‘siawns uwch’ neu ‘siawns isel’.

Beth fydd yn digwydd os yw fy nghanlyniad yn rhoi siawns isel?

Os yw’r canlyniad yn dangos mai siawns isel sydd gennych chi o gael babi â syndrom Down, ni fyddwch chi’n cael cyfle i gael mwy o brofion. Cofiwch nad yw cael siawns isel yn golygu nad oes unrhyw siawns o gwbl y gallwch chi gael babi â syndrom Down.

Beth os yw’r canlyniad yn rhoi siawns uwch i mi?

Os bydd canlyniad eich prawf yn dangos bod siawns uwch gennych chi o gael babi â syndrom Down (hynny yw, siawns rhwng un o bob dau ac un o bob 150), byddwch chi’n cael cyfle i ddod i weld bydwraig neu feddyg. Byddan nhw’n esbonio canlyniad eich prawf, ac fe gewch chi gyfle i drafod ydych chi am gael prawf diagnostig neu beidio. Ar ôl cael prawf diagnostig, efallai y byddwch chi’n wynebu gwneud penderfyniadau anodd y mae angen i chi wybod amdanyn nhw cyn i chi gael y prawf.

Cofiwch: os yw’r ffigur yn isel, mae’r siawns yn uwch. Felly, mae un siawns mewn 80, er enghraifft, yn siawns uwch nag un mewn 400.

Mae rhwng 3% a 5% o’r menywod (hynny yw, rhwng tair a phump o bob 100) sy’n cael y prawf sgrinio’n cael canlyniad sy’n dangos bod ganddyn nhw siawns uwch o gael babi â syndrom Down.

Mae canlyniadau’r profion gwaed mae’r Gwasanaeth Iechyd yn eu cynnig yng Nghymru’n cael eu monitro.

Mae rhai menywod yn talu’n breifat i gael profion sgrinio am syndrom Down. Nid yw’r Gwasanaeth Iechyd yn monitro’r profion sgrinio mae clinigau preifat yn eu gwneud. Mae hyn yn golygu na fydd gan eich bydwraig unrhyw wybodaeth am safon a chywirdeb unrhyw brofion sgrinio mae clinigau preifat yn eu gwneud. Fel pob prawf mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ei gynnig, ni fydd prawf preifat yn gallu dweud wrthych chi a oes syndrom Down ar eich babi neu beidio.

Prawf diagnostig am syndrom Down

Beth yw profion diagnostig?

Os oes gennych chi siawns uwch o gael babi â syndrom Down, byddwch chi’n cael cyfle i gael prawf diagnostig.

Mae peth gwybodaeth sylfaenol yn y daflen yma am y prawf diagnostig y gallwch chi gael cyfle i’w cael os byddwch chi’n cael y prawf sgrinio.

Beth yw amniocentesis?

Gweithred yw amniocentesis sy’n golygu tynnu 15-20 mililitr (llond tua thair neu bedair llwy de) o’r hylif amniotig sydd o gwmpas y babi yn eich croth. Mae’n bosib gwneud profion mewn labordy ar y celloedd o’ch babi sydd yn yr hylif yma er mwyn edrych ar gromosomau’r babi.

Mae’n bosib gwneud amniocentesis ar ôl wythnos 15 o’ch beichiogrwydd.

Mae peth risg gydag amniocentesis. Mae’n achosi erthyliad naturiol mewn tua un o bob 100 beichiogrwydd (1%).

Beth fyddai canlyniad prawf diagnostig yn ei ddweud wrthyf i?

Byddai’r canlyniad yn dweud wrthych chi a oes syndrom Down ar eich babi. Os oes syndrom Down ar y babi, gallwch chi benderfynu ydych chi’n awyddus i baratoi ar gyfer geni babi â syndrom Down, neu i derfynu’ch beichiogrwydd.

Mae profion ar y cromosomau’n gallu dod o hyd i fathau eraill o annormaleddau ar y cromosomau yn ogystal â syndrom Down. Os byddwch chi’n cael cyfle i gael amniocentesis, byddwch chi’n cael esboniad llawn o hyn.

Mwy o wybodaeth

Gallwch chi gael mwy o wybodaeth am sgrinio syndrom Down gan eich bydwraig neu’ch meddyg yn yr ysbyty (eich obstetregydd), neu o www.antenatalscreening.org.

Antenatal Results and Choices (ARC)
73 Charlotte Street
Llundain
W1T 4PN
Llinell gymorth: 020 7631 0285
e-bost: info@arc-uk.org
Gwefan: www.arc-uk.org

Cymdeithas Syndrom Down (DSA)
Langdon Down Centre
2a Langdon Park
Teddington
TW11 9PS
Ffôn: 0845 230 0372
Ffacs: 0845 230 0373
E-bost: info@downs-syndrome.org
Website: www.downs-syndrome.org.uk

 

Resources

 

Sgrinio am syndrom Down mewn beichiogrwydd

Arabic
Bengali
Chinese (Cantonese)
Chinese (Mandarin)
Czech
English
Gujarati
Hindi
Italian
Japanese
Nepalese
Portuguese
Punjabi
Somali
Urdu