Eich grŵp gwaed a beichiogrwydd
Mae’r daflen yma’n esbonio’r profion mae’n bosib eu gwneud yn ystod beichiogrwydd i:
- ddod i wybod eich grŵp gwaed;
- dod i wybod eich grŵp Rhesws;
- ac i chwilio am wrthgyrff.
Mae angen i’r bobl sy’n gofalu amdanoch chi yn ystod eich beichiogrwydd wybod eich grŵp gwaed rhag ofn y bydd rhaid i chi gael trallwysiad gwaed (blood transfusion). Mae’n bwysig iddyn nhw wybod eich grŵp Rhesws hefyd.
Beth yw’ch grŵp Rhesws?
Beth yw gwrthgyrff celloedd coch?
Os ydych chi’n Rhesws negatif
Ydi hi’n bosib rhwystro clefyd hemolytig y newydd-anedig (HDN)?
Y canlyniadau
Pam ddylwn i gael cyfle i gael pigiad gwrth-D?
Beth yw’ch grŵp Rhesws?
Fel arfer, bydd eich grŵp gwaed yn un o’r pedwar prif grŵp sy’n dilyn:
- grŵp O;
- grŵp A;
- grŵp B;
- grŵp AB.
Mae gennych chi hefyd grŵp gwaed arall, sef eich grŵp Rhesws. Gallwch chi fod naill ai’n Rhesws positif neu’n Rhesws negatif. Er enghraifft, efallai y bydd eich grŵp gwaed cyffredinol yn cael ei ysgrifennu fel ‘grŵp O Rhesws positif’.
Beth yw gwrthgyrff celloedd coch?
Gwrthgyrff yw ffordd naturiol eich corff o’i amddiffyn ei hun rhag unrhyw beth ‘estron’ yn eich corff. Y celloedd coch yn eich gwaed sy’n cludo ocsigen. Efallai y byddwch chi’n creu gwrthgyrff os oes celloedd gwaed o grŵp gwaed sy’n wahanol i’ch un chi’n dod i mewn i lif eich gwaed. Gall hyn ddigwydd yn sgil trallwysiad gwaed neu o’ch babi yn ystod beichiogrwydd.
Mae gwrthgyrff celloedd coch yn gallu pasio o’ch llif gwaed chi i mewn i lif gwaed eich babi. Gallai hyn niweidio gwaed eich babi. Weithiau mae’n achosi cyflwr anghyffredin o’r enw clefyd hemolytig y babi newydd-anedig (HDN). Rhai o symptomau HDN yw clefyd melyn (jaundice) ac anemia (diffyg celloedd coch yn y gwaed). Mae angen i fabanod sydd wedi’u heffeithio cael eu derbyn i ysbyty, ac mae’r driniaeth yn cynnwys ffototherapi (triniaeth â golau), a thrallwysiadau gwaed weithiau.
Os ydych chi’n Rhesws negatif
Os ydych chi’n Rhesws negatif ac mae’ch babi’n Rhesws positif, yna gallai’ch corff greu gwrthgyrff i ddinistrio’r celloedd gwaed Rhesws positif ‘estron’ yma. Mae hyn yn digwydd weithiau mewn beichiogrwydd, ond mae’n fwy tebygol ar adeg geni’r babi. Os ydych chi’n Rhesws positif, nid yw’r broblem yma’n codi fel arfer.
Ydi hi’n bosib rhwystro clefyd hemolytig y newydd-anedig (HDN)?
I helpu i rwystro HDN, os ydych chi’n Rhesws negatif a’ch babi’n Rhesws positif, byddwch chi’n cael cyfle i gael pigiad neu bigiadau o imiwnoglobwlin gwrth-D yn ystod y beichiogrwydd ac ar ôl i’r babi gael ei eni. Mae hyn yn gallu rhwystro’ch corff rhag creu gwrthgyrff Rhesws, ac mae’n lleihau’r posibilrwydd o weld yr un broblem yn codi mewn unrhyw feichiogrwydd sy’n dilyn.
Beth yw imiwnoglobwlin gwrth-D?
Cynnyrch gwaed ar ffurf pigiad yw imiwnoglobwlin gwrth-D, ac mae wedi’i wneud o waed mae rhoddwyr gwaed wedi’i roi.
A yw imiwnoglobwlin gwrth-D yn ddiogel?
Mae imiwnoglobwlin gwrth-D yn gallu achosi adwaith alergaidd o dro i dro. Mae’r dull o’i gynhyrchu’n cael ei reoli’n llym, felly mae’r perygl o ddal firws gan y rhoddwr gwaed yn isel iawn.
Beth yw manteision cael prawf sgrinio i gael gwybod fy ngrŵp gwaed a gwrthgyrff?
Byddwch chi’n cael cyfle i gael y prawf gwaed yn gynnar yn eich beichiogrwydd.
Os byddwch chi’n dewis cael y prawf, byddwch chi’n dod i wybod eich grŵp gwaed a p’un a ydych chi’n Rhesws positif neu’n Rhesws negatif. Mae bod yn Rhesws negatif yn llai cyffredin. Dim ond tua 15% (15 person o bob 100) sy’n Rhesws negatif.
Bydd y prawf yn chwilio am wrthgyrff hefyd. Mae’n bwysig gwybod am y rhain rhag ofn fod angen trallwysiad gwaed arnoch chi ar ryw adeg, ac er mwyn ei roi’n ddiogel. Mewn achosion prin iawn, ac fel yr esboniwyd yn barod, gallai gwrthgyrff yn eich gwaed effeithio ar eich babi. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch chi a’ch babi gael gofal arbenigol. Byddwch chi’n cael ail gyfle i gael y prawf gwaed yma yn ystod wythnos 28 o’ch beichiogrwydd.
Beth yw anfanteision cael prawf sgrinio i gael gwybod fy ngrŵp gwaed a gwrthgyrff?
Prawf gwaed syml yw’r prawf sgrinio. Byddai ganddo’r un peryglon yn union ag unrhyw brawf gwaed arall.
Ble fydd y prawf yn cael ei wneud?
Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych chi ble y gallwch chi gael y prawf.
Y canlyniadau
Fydd fy nghanlyniad yn gyfrinachol?
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cadw canlyniadau pob prawf yn gyfrinachol. Mae polisïau ysbytai ynglŷn â faint o bobl fydd yn gweld canlyniadau’ch profion yn amrywio. Gall eich bydwraig esbonio’r drefn sydd ar waith yn eich ardal.
Sut byddaf i’n cael canlyniad fy mhrawf sgrinio?
Bydd eich bydwraig yn esbonio sut a phryd y byddwch chi’n cael canlyniad y prawf. Dylech chi gael canlyniad eich prawf gwaed o fewn tair wythnos i’r dyddiad y cafodd eich sampl gwaed ei chymryd.
Profion diagnostig am grŵp gwaed a gwrthgyrff celloedd coch
Mae’r prawf sgrinio am grŵp gwaed a gwrthgyrff celloedd coch yn un cywir iawn. Weithiau, bydd angen i chi gael prawf gwaed ychwanegol os yw problem bosib yn dod i’r amlwg.
Os ydych chi’n gwybod eich bod chi’n Rhesws negatif
Cysylltwch â’ch bydwraig neu feddyg cyn gynted â phosib i’w hatgoffa eich bod chi’n Rhesws negatif os ydych chi’n:
- gwaedu o’r wain (vagina) ar ôl wythnos 12;
- cael erthyliad naturiol (miscarriage) ar ôl wythnos 12;
- neu’n cael niwed i’ch abdomen (er enghraifft, anaf gan wregys diogelwch mewn damwain car neu anaf wrth gwympo).
Os bydd unrhyw un o’r pethau yma’n digwydd, gallai’ch corff ddechrau creu gwrthgyrff ac efallai fod angen pigiad gwrth-D arnoch chi.
Pam ddylwn i gael cyfle i gael pigiad gwrth-D?
Dylech chi gael cyfle i gael pigiad gwrth-D i leihau’r perygl o greu gwrthgyrff. Dylech chi hefyd gael cyfle i gael pigiad gwrth-D dan unrhyw rai o’r amgylchiadau sy’n dilyn:
- Rydych chi’n cael amniocentesis.
- Rydych chi’n cael samplu filysau corionig (CVS).
- Pan mae’ch babi’n cael ei eni (fel arfer, dim ond os yw’r babi’n Rhesws positif).
- Rydych chi’n cael beichiogrwydd ectopig.
- Rydych chi’n terfynu’ch beichiogrwydd.
Cofiwch ddweud wrth unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanoch eich bod chi’n Rhesws negatif.
Byddan nhw’n mesur lefel eich gwrthgyrff drwy gydol eich beichiogrwydd. Efallai y byddwch chi’n cael cyfle i gael pigiadau gwrth-D yn ystod eich beichiogrwydd er mwyn ceisio atal problemau.
Mwy o wybodaeth
Gall eich bydwraig neu’ch meddyg yn yr ysbyty (eich obstetregydd) roi mwy o wybodaeth i chi am fod yn Rhesws negatif.
Mae gwybodaeth hefyd am grwpiau gwaed a gwrthgyrff celloedd coch mewn beichiogrwydd ar: http://hospital.blood.co.uk/library/patient_information_leaflets/leaflets/index.asp (Gwybodaeth 22/09/09) |