Sgrinio Cyn Geni Cymru - Antenatal Screening Wales  
 

Crymangell

 

Sut byddaf i’n cael canlyniad fy mhrawf sgrinio?

Bydd eich bydwraig neu’ch meddyg, neu un o gynghorwyr y ganolfan cryman-gell a thalasaemia yn eich ardal yn rhoi canlyniad eich prawf i chi.

Beth fydd y canlyniadau’n ei ddweud wrthyf i?

Os yw’r canlyniad yn dangos nad ydych chi’n gludydd, mae’n annhebygol iawn y bydd anhwylder cryman-gell neu thalasaemia mwyaf ar eich plentyn. Er bod y prawf yn un cywir iawn, mae nifer bach o ganlyniadau’n gallu bod yn aneglur. Os bydd hyn yn digwydd, byddwch chi’n cael cyfle i gael ail brawf.

Os yw’r prawf yn dangos eich bod chi’n cludo’r genyn neu fod posibilrwydd eich bod chi’n ei gludo, fe gewch chi gyfle i siarad gyda nyrs neu feddyg arbenigol. Byddan nhw’n rhoi mwy o wybodaeth i chi. Byddan nhw’n awgrymu y dylech chi ofyn i dad y babi gael prawf gwaed i weld a yw’n cludo’r genyn. Os yw canlyniad prawf gwaed y tad yn dangos nad yw’n cludo’r genyn, mae’n annhebygol iawn y bydd anhwylder cryman-gell neu thalasaemia mwyaf ar eich plentyn.

Beth os yw tad fy mabi’n gludydd hefyd?

Os yw’r prawf yn dangos bod tad eich babi’n gludydd, efallai fod un siawns o bob pedair (neu 25%) y gallai’ch babi fod ag anhwylder cryman-gell neu thalasaemia mwyaf. Gallwch chi benderfynu wedyn a fyddwch chi’n cael mwy o brofion i weld a yw’ch babi wedi’i effeithio. Profion diagnostig yw’r enw ar y profion yma. Os byddwch chi’n dewis peidio â chael mwy o brofion, gallai’ch babi gael prawf ar adeg y geni am anhwylderau cryman-gell a thalasaemia mwyaf. Os yw’r babi wedi’i effeithio, bydd y driniaeth yn gallu dechrau’n gynnar.