Beth Yw Ystyr Canlyniadau?
Fe fydd eich bydwraig yn dweud wrthych chi sut y byddwch chi'n cael canlyniadau'r profion, a phryd. Fe fydd yn egluro canlyniadau'ch profion.
Fel arfer, fe fyddwch chi'n cael canlyniad eich prawf gwaed cyn pen 3 wythnos.
Os bydd y canlyniadau'n dangos bod yna broblem, neu fod angen prawf arall arnoch chi, fe fydd eich bydwraig neu ddoctor yn cynnig apwyntiad arall i chi.
Os cewch chi sgan uwchsain ac rydyn ni'n tybio bod yna broblem, fe gewch chi wybod gan yr un sy'n gwneud y sgan.
cliciwch y cysylltau ar y chwith i gael mwy o wybodaeth
|