Gwybodaeth
Os ydych chi'n feichiog, fe fyddwch chi'n cael cynnig nifer o wahanol brofion sgrinio. Chi fydd yn dewis a fyddwch chi'n cael y profion yma, ai peidio. Fe fydd y wybodaeth ar y wefan yma'n eich helpu chi i ddewis. Fe gewch chi gyfle hefyd i drafod y profion â'ch bydwraig a'ch doctor.
Cliciwch y cysylltau ar y dde i gael mwy o wybodaeth 
Penderfynu a ydych chi am gael y profion
Weithiau, mae'n anodd penderfynu pa brofion i'w cael. Mae'n well gan rai merched beidio â chael gwybod a oes yna broblemau. Mae'n well gan eraill wybod er mwyn eu paratoi'u hunain am y geni, neu er mwyn ystyried terfynu'r beichiogrwydd.
Cymerwch eich amser i ddewis. Fe gewch chi gyfle i drafod y profion efo'ch bydwraig a'ch doctor, ac i ofyn cwestiynau amdanyn nhw. Hefyd, mae yna daflenni ar gael sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am y profion.
Ar ôl dewis pa brofion rydych chi am eu cael, fe fydd eich bydwraig yn gwneud y trefniadau. Fe fydd hefyd yn egluro sut byddwch chi'n cael y canlyniadau. Mae canlyniadau pob prawf sgrinio'n gyfrinachol.
Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael i ferched byddar neu drwm eu clyw. Mae’r taflenni gwybodaeth ar gael hefyd mewn nifer o ieithoedd ar CDs clywedol. Os hoffech chi gael gwybodaeth yn y fformatau yma, gofynnwch i’ch bydwraig eu cael nhw i chi. |