Profion Diagnostig
Os yw canlyniad prawf sgrinio’n dangos siawns uwch o gael problem benodol, yna fe fyddwn ni’n cynnig prawf diagnostig i chi. Mae profion diagnostig yn rhoi canlyniadau mwy pendant, ond mae yna risg o gael erthyliad naturiol (miscarriage) gyda rhai. Am y rheswm yma, fe fyddwn ni ond yn cynnig y math yma o brofion i ferched sydd â siawns uchel o fod â phroblem.
Fel yn achos profion meddygol eraill, dydi canlyniadau profion sgrinio a phrofion diagnostig ddim yn 100% gywir.
cliciwch y cysylltau ar y chwith i gael mwy o wybodaeth
|